RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig
Barnau sgrinioI145
1
Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi—
a
cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am ddatblygiad anawdurdodedig i hysbysu barn sgrinio; a
b
mabwysiadu barn sgrinio.
2
Pan ymddengys i’r fath awdurdod cynllunio lleol bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda chopi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 45”) y mae’n rhaid iddo—
a
cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1); a
b
ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.
3
Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 45 anfon copi ohono at—
a
Gweinidogion Cymru;
b
yr ymgynghoreion; ac
c
unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 45.
4
Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 45 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon atynt.