Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/11/2017.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, Adran 48.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
48.—(1) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid iddynt wneud cyfarwyddyd sgrinio cyn y cyflwynir unrhyw hysbysiad yn unol â rheoliad 49.
(2) Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 a bod cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru.
(3) Cyn cael cyfarwyddyd sgrinio ni chaiff yr arolygydd benderfynu ar gais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (“y cais tybiedig”) ac eithrio i wrthod y cais hwnnw.
(4) Pan atgyfeirir cwestiwn o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cwestiwn neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, heb fod yn fwy na 90 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 46(2)(c).
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gofyniad, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynnodd am y cyfarwyddyd.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (5) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (4) at yr arolygydd.
(8) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45 am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy, ac mae’n rhaid i’r wybodaeth honno y gofynnir amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(9) Os bydd apelydd sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff (8) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw mae’r apêl, i’r graddau y mae’n apêl sail (a), yn methu ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 48 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: