- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
53.—(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod copi o’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr)—
(a)pob hysbysiad rheoliad 45 a roddwyd gan yr awdurdod;
(b)pob hysbysiad a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 49(2)(d); ac
(c)pob datganiad a phob gwybodaeth bellach a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 50(a);
a rhaid i gopïau o’r dogfennau hynny barhau i fod ar gael felly am gyfnod o 2 flynedd neu hyd y byddant yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr yn unol â pharagraff (2), pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.
(2) Pan fo manylion am unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan adran 177 o Ddeddf 1990 yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr(1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod y Rhan honno hefyd yn cynnwys copi o unrhyw rai o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sy’n berthnasol i’r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
(3) Mae darpariaethau paragraffau (2) a (3) o reoliad 29 yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir o dan adran 177 o Ddeddf 1990 fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.
Gweler adran 177(8) o Ddeddf 1990.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: