RHAN 2Sgrinio

Achosion o ofyn am farnau sgrinio6

1

Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.

2

Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ddod gyda—

a

plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

b

disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

i

disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

ii

disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

c

disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

d

disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o’u cael ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

i

y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

ii

y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

e

y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

3

Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol ddod gyda—

a

plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

b

digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad y gwnaed cais dilynol mewn cysylltiad ag ef;

c

yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(c) a (d), ond dim ond i’r graddau y mae hyn yn ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd nas nodwyd yn flaenorol; a

d

y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

4

Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais am y farn sgrinio, pan fo’r person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2) neu (3), gymryd i ystyriaeth y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth o dan y Gyfarwyddeb.

5

Os nad yw awdurdod y gofynnir iddo am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am ba bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol arno.

6

Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn—

a

21 o ddiwrnodau; neu

b

y fath gyfnod hwy nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau fel y cytunir yn ysgrifenedig â’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2) neu (3).

7

Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6) anfon copi at y person a ofynodd amdani.

8

Pan fo awdurdod—

a

yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6); neu

b

yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;

caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.

9

Caiff y person ofyn am farn sgrinio yn unol â pharagraff (8) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (5).