RHAN 13Amrywiol

Ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfyniad awdurdod ar gais cynllunio61

1

At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—

a

pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

b

pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,

nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.

2

Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai—

a

pob un o’r cyfeiriadau yn erthyglau 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a

b

y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)45 at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.