RHAN 13LL+CAmrywiol

Ymestyn y pŵer i ddarparu mewn gorchymyn datblygu ar gyfer rhoi cyfarwyddydau ynghylch y dull yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunioLL+C

62.  Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(1) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 62 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.