Rheoliadau 5(8), (9), (13), 6(4) ac 31(3)
1. Rhaid ystyried nodweddion y datblygiad gan roi sylw yn benodol i—
(a)maint a dyluniad y datblygiad;
(b)y cyfuniad â datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwyir;
(c)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth;
(d)cynhyrchu gwastraff;
(e)llygredd a niwsans;
(f)y perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad dan sylw, gan gynnwys y rheini a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn unol â gwybodaeth wyddonol;
(g)y risgiau i iechyd pobl (er enghraifft yn sgil halogi dŵr neu lygredd aer).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r canlynol—
(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;
(b)digonedd cymharol, argaeledd, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol;
(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd a ganlyn—
(i)gwlypdiroedd, ardaloedd glannau afonydd, ac aberoedd afonydd;
(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;
(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)safleoedd Ewropeaidd ac ardaloedd eraill a ddosberthir neu a warchodir o dan ddeddfwriaeth genedlaethol;
(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i gyflawni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr Undeb ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;
(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;
(viii)tirweddau a safleoedd o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd mewn perthynas â’r meini prawf a nodir o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw i effaith y datblygiad ar y ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2), gan ystyried—
(a)maint a graddau gofodol yr effaith (er enghraifft yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth sy’n debygol o gael ei heffeithio);
(b)natur yr effaith;
(c)natur trawsffiniol yr effaith;
(d)dwysedd a chymhlethdod yr effaith;
(e)tebygolrwydd yr effaith;
(f)dechreuad, parhad, amledd a gwrthdroadwyedd disgwyliedig yr effaith;
(g)cyfuniad yr effaith ag effaith datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwywyd;
(h)y posibilrwydd o leihau’r effaith yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)