xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 5(8), (9), (13), 6(4) ac 31(3)

ATODLEN 3LL+CMeini prawf dethol ar gyfer sgrinio datblygiad Atodlen 2

Nodweddion y datblygiadLL+C

1.  Rhaid ystyried nodweddion y datblygiad gan roi sylw yn benodol i—

(a)maint a dyluniad y datblygiad;

(b)y cyfuniad â datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwyir;

(c)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth;

(d)cynhyrchu gwastraff;

(e)llygredd a niwsans;

(f)y perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad dan sylw, gan gynnwys y rheini a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn unol â gwybodaeth wyddonol;

(g)y risgiau i iechyd pobl (er enghraifft yn sgil halogi dŵr neu lygredd aer).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Lleoliad y datblygiadLL+C

2.  Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r canlynol—

(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;

(b)digonedd cymharol, argaeledd, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol;

(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd a ganlyn—

(i)gwlypdiroedd, ardaloedd glannau afonydd, ac aberoedd afonydd;

(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;

(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v)safleoedd Ewropeaidd ac ardaloedd eraill a ddosberthir neu a warchodir o dan ddeddfwriaeth genedlaethol;

(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i gyflawni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr Undeb ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;

(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;

(viii)tirweddau a safleoedd o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Mathau a nodweddion yr effaith bosiblLL+C

3.  Rhaid ystyried effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd mewn perthynas â’r meini prawf a nodir o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw i effaith y datblygiad ar y ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2), gan ystyried—

(a)maint a graddau gofodol yr effaith (er enghraifft yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth sy’n debygol o gael ei heffeithio);

(b)natur yr effaith;

(c)natur trawsffiniol yr effaith;

(d)dwysedd a chymhlethdod yr effaith;

(e)tebygolrwydd yr effaith;

(f)dechreuad, parhad, amledd a gwrthdroadwyedd disgwyliedig yr effaith;

(g)cyfuniad yr effaith ag effaith datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwywyd;

(h)y posibilrwydd o leihau’r effaith yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)