ATODLEN 6Gorchmynion adran 97 a 102 o dan Ddeddf 1990
I115
Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai—
a
paragraff (1) yn darllen—
1
Pan fo—
a
datganiad amgylcheddol wedi ei lunio; a gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau; a
b
Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol,
rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol; a rhaid i’r awdurdod hwnnw sicrhau bod yr wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).
b
paragraff (3) yn darllen—
3
Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—
a
enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;
b
cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;
c
bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;
d
y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach ar bob adeg resymol;
e
cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad diweddaraf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
f
manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran lle gellir gweld yr wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y mae ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
g
cyfeiriad y corff cychwyn (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle y gellir cael yr wybodaeth bellach;
h
y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
i
os codir tâl am gopi, swm y tâl;
j
y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);
k
y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
c
paragraff (4) yn darllen—
4
Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac at Weinidogion Cymru.
d
paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;
e
paragraff (7) yn darllen—
7
Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 cyn diwedd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—
a
y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;
b
y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu
c
y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.
f
ym mharagraff (8)—
i
“ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a
ii
yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn dweud “bellach”.