- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7. Mae rheoliad 14 a’i bennawd i’w darllen fel pe baent yn darparu—
14.—(1) Pan fo gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol, caniateir i’r corff cychwyn ddatgan ei farn am gwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.
(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r corff cychwyn gynnwys—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a
(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y mae’r corff cychwyn yn dymuno eu darparu neu eu cyflwyno.
(3) Rhaid i gorff cychwyn beidio â mabwysiadu barn gwmpasu na chyfarwyddyd cwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.
(4) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu rhaid i’r corff cychwyn ystyried—
(a)yr wybodaeth a luniwyd gan y corff cychwyn am y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);
(b)nodweddion penodol y datblygiad penodol;
(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a
(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio arnynt gan y datblygiad.
(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.
(6) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu o’u hewyllys eu hunain neu ar gais trydydd parti, rhaid iddynt anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol sydd wedi cychwyn y gorchymyn.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: