Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynolLL+C

9.—(1Pan fo awdurdod cynllunio mwynol yn bwriadu gwneud neu yn gwneud cais ROMP sy’n gais Atodlen 1 neu Atodlen 2 i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (cydsyniadau eraill) o’r Rheoliadau Cyffredinol(1), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r cais neu’r cais arfaethedig hwnnw fel y maent yn gymwys i gais ROMP yr atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw rheoliadau 6 i 11, 13, 14, 15, 18 (ac eithrio at ddibenion rheoliadau 21(3) a (4)), 20 a 29(1) yn gymwys;

(b)yn rheoliad 5 (darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â sgrinio), nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys;

(c)mae rheoliad 12(3) (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol), yn gymwys fel pe bai “a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(d)yn rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol)—

(i)ym mharagraff (3)(b) yn lle “11(4)(a), 12(6) neu 13(7)” darllener “12(6)”;

(ii)darllener paragraff (4) fel pe bai “awdurdod cynllunio perthnasol ac” ac “awdurdod neu’r” yn y ddau le y mae’n digwydd wedi eu hepgor;

(e)yn rheoliad 19(2) (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(i)yn is-baragraff (a) darllener fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener fel pe bai is-baragraff (b) yn darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;;

(f)darllener rheoliad 21(2) (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru), fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(g)yn rheoliad 24(3) (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(i)darllener is-baragraff (a) fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener is-baragraff (b) fel pe bai’n darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;; a

(h)rheoliadau 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), 27 (argaeledd barnau, cyfarwyddyd etc. i’w harchwilio), 28(1) (gwybodaeth i ddod gyda phenderfyniadau) a 29(2) (dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio mwynol.

(2Caiff awdurdod cynllunio mwynol sy’n bwriadu gwneud cais ROMP i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) i (6) o reoliad 7 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 6(8) ac eithrio fel pe bai ym mharagraff (5) “, hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny” wedi ei hepgor.

(3Rhaid i ofyniad o dan baragraff (2) ddod gyda’r canlynol—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o natur a diben y datblygiad ROMP, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio yn sylweddol gan y datblygiad;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol, i’r graddau bod gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall y gallai’r awdurdod ddymuno ei darparu gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fod wedi bod fel arall yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (2) anfon at Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ychwanegol y caniateir iddynt ofyn amdani i wneud cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Diwygiwyd rheoliad 11 gan O.S. 1999/1810 ac O.S. 1999/1892.