- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, Paragraff 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
2.—(1) Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Yn erthygl 2—
(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau AEA” (“EIA Regulations”), yn lle “2016”, rhodder “2017”; a
(b)yn y lleoedd perthnasol, mewnosoder—
(i)“mae i “datblygiad AEA” (“EIA development”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;
(ii)“mae i “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 development”) a “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yr ystyron a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;
(iii)“mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;
(iv)“mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”.
(3) Yn erthygl 18—
(a)ar ôl paragraff (3)(b), mewnosoder—
“(ba)yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol—
(i)y ffaith bod y datblygiad yn ddarostyngedig i weithdrefn asesu effaith amgylcheddol;
(ii)y datganiad amgylcheddol, unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu perthnasol, ac unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;
(iii)yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i Weinidogion Cymru ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os oes rhai);
(iv)yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1), gwybodaeth heblaw am yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan unrhyw is-baragraff arall sy’n berthnasol i’r penderfyniad ac sydd ond yn dod ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth sy’n ofynnol gan y paragraff hwn am y tro cyntaf;
(v)sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol a chost y fath gopïau;
(vi)manylion eraill y trefniadau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau gan gynnwys disgrifiad o’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir wedi hynny gan y ceisydd;
(vii)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad;”;
(b)ym mharagraff (3)(c), ar ôl “cais”, mewnosoder “, na chaiff, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, fod cyn diwrnod olaf y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad diweddaraf y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cais yn unol ag erthygl 18(2), (3) neu 19(2)”;
(c)ym mharagraff (4), yn y lle priodol, mewnosoder—
“mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) ac “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yr un ystyron ag yn y Rheoliadau AEA;”.
(4) Yn erthygl 19—
(a)ym mharagraff (2), yn lle “21 diwrnod” rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, ac 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle “21 diwrnod” rhodder “21 neu 30 diwrnod, fel y bo’n briodol,”.
(5) Yn erthygl 22(4)(b), ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, 30 diwrnod,”.
(6) Yn erthygl 23(2)(a), yn lle “21 diwrnod”, rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, a 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall, yn y naill achos neu’r llall”.
(7) Yn erthygl 29, hepgorer paragraffau (4) a (5).
(8) Yn y ffurflen yn Atodlen 4—
(a)ar ôl “+Mae’r cais wedi ei gyflwyno ynghyd â Datganiad Amgylcheddol”, mewnosoder “+Mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall”;
(b)yn nodyn j)—
(i)yn lle “21” rhodder “30”; a
(ii)ar ôl “chyhoeddi”, mewnosoder “, neu yn achos cais nad yw’n ofynnol i ddatganiad amgylcheddol ddod gydag ef yn unol â’r Rheoliadau AEA, rhaid i’r cyfnod hwnnw fod yn 21 diwrnod”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: