Offerynnau Statudol Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
21 Ebrill 2017
Laid before the National Assembly for Wales
26 Ebrill 2017
Yn dod i rym
18 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 16 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt.
1964 (p.14); diwygiwyd adran 16(1) a mewnosodwyd adran 16(1A) gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.