Adennill llog ar dreuliau2
1
Y gyfradd llog ar dreuliau y caniateir i awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 55(5B) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yw 2% y flwyddyn yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) ar unrhyw ddiwrnod penodol yw—
a
ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd ddiweddaraf a gyhoeddir mewn cyfarfod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhelir cyn y diwrnod hwnnw fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu
b
os yw gorchymyn o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 19983 mewn grym, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.