Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017

Adennill llog ar dreuliau

2.—(1Y gyfradd llog ar dreuliau y caniateir i awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 55(5B) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yw 2% y flwyddyn yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) ar unrhyw ddiwrnod penodol yw—

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd ddiweddaraf a gyhoeddir mewn cyfarfod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhelir cyn y diwrnod hwnnw fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu

(b)os yw gorchymyn o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 1998(1) mewn grym, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.