Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 640 (Cy. 146)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017

Gwnaed

4 Mai 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2017

Yn dod i rym

31 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1), a’r pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 93 o’r Ddeddf honno ac sy’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

(1)

1990 p. 9; diwygiwyd adran 55 gan adran 30(6) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4). Ceir diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.