Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

Dirymiadau a darpariaeth arbed

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981(1), i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru; a

(b)Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001(2).

(2Mae’r Rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â cheisiadau a wneir cyn 31 Mai 2017.