- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae adolygiad y gwneir cais amdano ar y sail a nodir yn rheoliad 4 wedi ei ragnodi fel dosbarth o adolygiadau at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 1B i Ddeddf 1990.
(2) Mae’r penderfyniad ar adolygiad sy’n perthyn i’r dosbarth a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w wneud gan berson penodedig.
4. Ni chaniateir gwneud cais am adolygiad ac eithrio ar y sail nad yw’r adeilad y mae’n ymwneud ag ef o ddiddordeb pensaernïol arbennig neu hanesyddol arbennig ac felly dylid ei dynnu oddi ar restr.
5.—(1) Rhaid gwneud cais am adolygiad i Weinidogion Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i gais—
(a)fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi), gan gynnwys—
(i)enw’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(ii)cyfeiriad yr adeilad rhestredig neu ddisgrifiad o leoliad y tir lle y mae’r adeilad wedi ei leoli;
(iii)enw a chyfeiriad y ceisydd;
(iv)datganiad yn cadarnhau pa un a yw’r ceisydd yn berchennog neu’n feddiannydd yr adeilad;
(v)enw a chyfeiriad cynrychiolydd y ceisydd (os oes un) a chadarnhad o ran pa un a ddylid anfon unrhyw hysbysiad neu ohebiaeth arall y mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’w hanfon at y ceisydd, at y cynrychiolydd yn hytrach na’r ceisydd;
(vi)datganiad yn nodi manylion llawn sail yr adolygiad, gan gynnwys yr holl faterion y mae’r ceisydd yn bwriadu eu codi yn ystod yr adolygiad ac y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r person penodedig eu hystyried wrth gynnal yr adolygiad;
(vii)datganiad o ran drwy ba un o’r dulliau (neu gyfuniad o ddulliau) a grybwyllir yn adran 2D(5) o Ddeddf 1990 y mae’r ceisydd yn ystyried y dylid cynnal yr adolygiad; a
(b)cynnwys y canlynol—
(i)yr holl ddogfennau, deunyddiau a thystiolaeth y mae’r ceisydd yn bwriadu dibynnu arnynt yn ystod yr adolygiad;
(ii)copi o’r hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r adeilad rhestredig o dan adran 2D(2) o Ddeddf 1990;
(iii)pan na fo’r ceisydd yn berchennog yr adeilad rhestredig ond bod perchennog yn hysbys i’r ceisydd, tystysgrif yn cadarnhau bod perchennog yr adeilad rhestredig wedi ei hysbysu ynghylch bwriad y ceisydd i ofyn am yr adolygiad;
(iv)pan na fo’r ceisydd yn berchennog yr adeilad rhestredig ac nad oes perchennog yn hysbys i’r ceisydd, tystysgrif lofnodedig yn cadarnhau bod y ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybod pwy yw unrhyw berchennog o’r fath ond wedi methu â gwneud hynny.
(3) Rhaid gwneud cais o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i berchennog neu feddiannydd yr adeilad o dan adran 2D(2) o Ddeddf 1990.
6.—(1) Rhaid i’r person penodedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais yn unol â rheoliad 5 roi gwybod i’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am—
(a)dyddiad dechrau’r adolygiad (“y dyddiad dechrau”);
(b)y rhif cyfeirnod a ddyrennir i’r adolygiad; ac
(c)y cyfeiriad y mae cyfathrebiadau ysgrifenedig ynghylch yr adolygiad i’w hanfon iddo.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y cawsant hysbysiad o dan baragraff (1) anfon at y ceisydd a’r person penodedig gopi o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn flaenorol i Weinidogion Cymru o dan adran 2A o Ddeddf 1990 gan unrhyw berson â buddiant.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc.
7.—(1) Rhaid i’r person penodedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 6(2) roi hysbysiad ysgrifenedig ynghylch yr adolygiad i—
(a)pob person â buddiant; a
(b)unrhyw berson neu gorff arall y mae’r person penodedig yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)datgan enw’r ceisydd a chyfeiriad yr adeilad rhestredig y mae’r adolygiad yn ymwneud ag ef;
(b)nodi’r materion yr hysbyswyd y ceisydd amdanynt o dan reoliad 6(1);
(c)cadarnhau bod copïau o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn flaenorol i Weinidogion Cymru o dan adran 2A o Ddeddf 1990 gan unrhyw berson â buddiant wedi eu hanfon at y ceisydd gan Weinidogion Cymru;
(d)datgan y bydd unrhyw sylwadau o’r fath yn cael eu hystyried gan y person penodedig wrth wneud penderfyniad ar yr adolygiad;
(e)datgan y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach i’r person penodedig yn unol â rheoliad 9(2); a
(f)datgan sut y gellir gweld copi o’r cais am adolygiad a’r dogfennau eraill sy’n gysylltiedig â’r adolygiad.
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau, anfon at y ceisydd a’r person penodedig ddatganiad yn nodi’r holl faterion y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu codi yn ystod yr adolygiad ac y maent yn ystyried y dylai’r person penodedig eu hystyried wrth gynnal yr adolygiad (“datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad”).
(2) Rhaid i ddatganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad ddod gyda’r holl ddogfennau, deunyddiau a thystiolaeth y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu dibynnu arnynt yn ystod yr adolygiad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i’r ceisydd anfon at y person penodedig ddau gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ynghylch datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad fel eu bod yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.
(4) Pan anfonir sylwadaethau ysgrifenedig at y person penodedig o dan baragraff (3) neu (5), rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o unrhyw sylwadaethau o’r fath at Weinidogion Cymru.
(5) Mae’r gofyniad ym mharagraff (3) i’w ddehongli fel pe bai’n caniatáu anfon un copi yn unig o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig at ddiben bodloni’r gofyniad hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn dewis anfon y sylwadaethau drwy ddull cyfathrebu electronig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: