- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rhan hon, mae’r weithdrefn mewn gwrandawiad i fod fel y’i pennir gan y person penodedig.
(2) Rhaid i’r person penodedig ddatgan ar gychwyn y gwrandawiad y weithdrefn y bwriedir ei mabwysiadu.
(3) Caiff unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad gael ei gynrychioli gan berson arall yn lle hynny.
(4) Pan fo gan ddau neu ragor o bersonau fuddiant tebyg yn y materion sy’n cael eu hystyried yn y gwrandawiad, caiff y person penodedig ganiatáu i un neu ragor o bersonau ymddangos ar ran rhai o’r personau sydd â buddiant o’r fath, neu ar ran yr holl bersonau sydd â buddiant o’r fath.
(5) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi unrhyw dystiolaeth y mae’n ei hystyried yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(6) Caiff y person penodedig fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad.
(7) Caiff y person penodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad neu sy’n bresennol ynddo ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a
(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig,
ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(8) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall a geir gan unrhyw berson cyn dechrau’r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.
(9) Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio’r gwrandawiad ac—
(a)pan gyhoeddir y dyddiad, yr amser a’r lle y mae’r gwrandawiad i ailddechrau cyn y gohiriad, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw i unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad a oedd yn absennol ar adeg y cyhoeddiad; neu
(b)pan na fo’r dyddiad, yr amser na’r lle y mae’r gwrandawiad i ailddechrau yn cael eu cyhoeddi cyn y gohiriad, rhaid iddo—
(i)pennu (a chaiff amrywio wedi hynny) y dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw; a
(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (10), rhoi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad nid llai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt).
(10) Pan fo paragraff (9)(b) yn gymwys, caiff y person penodedig roi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad lai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer ailddechrau’r gwrandawiad (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt) mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd, y person penodedig a Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r fath gyfnod byrrach.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: