- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Cyn paragraff 1 mewnosoder—
Z1. Gwartheg, defaid a geifr sy’n cyrraedd y safle ar yr amod y cânt eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd.”
(3) Yn y pennawd cyn paragraff 1 yn lle “Orchymyn Cynulliadau Anifeiliaid (Cymru) 2003”, ac ym mharagraff 1, yn lle “Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003” rhodder “Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010”(1).
(4) Yn y pennawd cyn paragraff 3, yn lle “Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”.
(5) Ym mharagraff 3, yn lle “erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “erthygl 21 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”.
(6) Ym mharagraff 4—
(a)yn is-baragraffau (1) a (2), yn lle “erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “erthygl 21 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”;
(b)yn is-baragraff (1)(d), yn lle “llofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio’r mochyn i fagu ar y safle hwnnw a’i fod yn anfon y datganiad i’r awdurdod lleol yn ddi-oed” rhodder “cyflwyno, yn unol â thelerau’r drwydded y caiff y mochyn ei symud oddi tani, ac yn ddi-oed, ddatganiad yn dweud y bwriedir defnyddio’r mochyn ar gyfer bridio ar y safle hwnnw”; ac
(c)yn is-baragraff (2)(b)—
(i)yn lle “anfon y” rhowch “cyflwyno’r”, a
(ii)hepgorer “uchod at yr awdurdod lleol”.
(7) Yn lle paragraff 5 rhodder—
5.—(1) Dychwelyd gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i’r safle y traddodwyd hwy ohono i’r sioe neu’r arddangosfa honno ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
(2) Dychwelyd moch o sioe neu arddangosfa i’r safle y traddodwyd hwy ohono i’r sioe neu’r arddangosfa honno ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu mewn cyfleuster sydd wedi ei gymeradwyo i’r pwrpas gan arolygydd milfeddygol am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.”
(8) Hepgorer paragraff 6.
(9) Hepgorer paragraff 7.
(10) Hepgorer paragraff 8.
(11) Yn lle paragraff 9 rhodder—
“9. Gwartheg, defaid neu eifr sy’n cyrraedd yn ôl o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.”
(12) Hepgorer paragraff 11.
(13) Yn lle paragraff 15 rhodder—
15. Defaid, geifr, gwartheg neu foch sy’n cyrraedd yn ôl i’r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra’r oeddent yno ar yr amod—
(a)yn achos moch, eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd; a
(b)yn achos defaid, geifr a gwartheg, pan gafodd yr anifeiliaid hynny eu cadw mewn uned gwarantin cyn eu symud i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol, eu bod yn cael eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd minws nifer y diwrnodau y cadwyd yr anifail mewn uned gwarantin cyn ei symud i gael triniaeth.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: