RHAN 2Marchnata Deunyddiau Planhigion
Marchnata deunyddiau planhigion5
1
Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion onid yw—
a
y cyflenwr wedi ei gofrestru yn unol â rheoliad 11; a
b
y deunyddiau planhigion yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (2).
2
Rhaid i’r deunyddiau planhigion—
a
bod yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig neu’n ddeunyddiau CAC;
b
bod yn amrywogaeth y caniateir ei marchnata yn unol â rheoliad 7;
c
cael eu marchnata gan gyfeirio at yr amrywogaeth y mae’r deunyddiau planhigion yn perthyn iddi yn unol â rheoliad 8;
d
mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig, cael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â rheoliad 10; ac
e
mewn perthynas â deunyddiau CAC, mynd gyda dogfen y cyflenwr.
3
Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunyddiau planhigion o unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i’r gofynion ar gyfer deunyddiau planhigion yn y Rheoliadau hyn.
4
Mae paragraff (3) yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2018.
Eithriadau6
Nid yw rheoliad 5(1)(b) yn gymwys i farchnata deunyddiau planhigion a fwriedir ar gyfer—
a
treialon neu at ddibenion gwyddonol;
b
gwaith dethol;
c
mesurau sydd â’r nod o warchod amrywiaeth enetig.
Amrywogaethau y caniateir eu marchnata7
1
Mae deunyddiau planhigion o amrywogaeth y caniateir ei marchnata os yw’r amrywogaeth yn bodloni un neu ragor o ofynion paragraff (2).
2
Rhaid i’r amrywogaeth—
a
bod wedi cael hawliau amrywogaeth planhigion;
b
bod yn gofrestredig fel amrywogaeth;
c
bod yn destun cais am—
i
hawliau amrywogaeth planhigion; neu
ii
ei chofrestru fel amrywogaeth;
d
bod wedi ei marchnata cyn 30 Medi 2012 o fewn yr Undeb Ewropeaidd a bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; neu
e
mewn perthynas ag amrywogaethau sydd o ddim gwerth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol sy’n cael eu marchnata o fewn y Deyrnas Unedig—
i
bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; a
ii
bod yn ddeunyddiau CAC.
3
Rhaid i gyflenwr sy’n marchnata deunyddiau planhigion o amrywogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(e) sicrhau bod dogfen y cyflenwr yn mynd gyda’r deunyddiau planhigion, yn datgan eu bod yn cael eu marchnata yn unol ag ail baragraff Erthygl 7(2) o Gyfarwyddeb 2008/90/EC.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofrestredig fel amrywogaeth” (“registered as a variety”) (ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny) yw—
a
cofrestru fel amrywogaeth yng Nghymru yn unol ag Atodlen 4; neu
b
cofrestru fel amrywogaeth y tu allan i Gymru gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU.
Cyfeiriadau at amrywogaeth deunyddiau planhigion8
Caiff deunyddiau planhigion eu marchnata gan gyfeirio at eu hamrywogaeth, os cânt eu marchnata, mewn perthynas ag—
a
amrywogaeth o ddeunyddiau planhigion sy’n destun cais am roi hawliau amrywogaeth planhigion, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;
b
amrywogaeth gofrestredig, drwy gyfeirio at ei henw cofrestredig;
c
amrywogaeth sy’n destun cais am gofrestriad o’r fath, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;
d
gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, drwy gyfeirio at y rhywogaeth briodol neu’r cymysgryw rhyngrywiogaethol priodol.
Ardystio deunyddiau planhigion9
1
Os bodlonir gofynion paragraff (2), rhaid i arolygydd—
a
ardystio bod deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru—
i
yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol;
ii
yn ddeunyddiau sylfaenol; neu
iii
yn ddeunyddiau ardystiedig;
b
dyroddi tystysgrif sy’n cadarnhau’r ardystiad (tystysgrif arolygu cnwd).
2
Y gofynion yw y canfuwyd, mewn archwiliad swyddogol, fod y deunyddiau planhigion yn cydymffurfio â’r gofynion ardystio a nodir yn narpariaethau perthnasol Atodlen 5.
3
Rhaid i gais am ardystio deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
4
Mae label swyddogol a ddyroddir yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol fod arolygydd wedi ardystio bod deunyddiau planhigion y mae’r label swyddogol yn ymwneud â hwy yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig.
Labelu, selio a phecynnu deunyddiau planhigion ardystiedig10
1
Rhaid i ddeunyddiau planhigion ardystiedig, a gaiff eu marchnata, gael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi neu gymeradwyo label (label swyddogol) os yw’r label hwnnw yn bodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 2.
3
Ond nid oes angen i label a ddefnyddir wrth gyflenwi deunyddiau planhigion ardystiedig i’w manwerthu i ddefnyddiwr olaf nad yw’n broffesiynolyn, ond gynnwys gwybodaeth briodol am y cynnyrch, gan gynnwys enw’r awdurdod cyfrifol, enw neu rif cofrestru’r cyflenwr, yr enw botanegol ac enw’r amrywogaeth.
4
Rhaid i label swyddogol fod ynghlwm wrth y deunyddiau planhigion ardystiedig.
5
Pan fo deunyddiau planhigion ardystiedig yn rhan o’r un lot ac yn cael eu marchnata mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, rhaid rhoi label swyddogol ynghlwm wrth y pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
6
Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo pasbort planhigion a ddyroddir yn unol â Chyfarwyddeb 2000/29/EC, sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn mynd gyda deunyddiau planhigion ardystiedig.
7
Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion ardystiedig mewn lotiau o ddau neu ragor o blanhigion neu rannau o blanhigion oni bai bod y lotiau hynny yn ddigon cydryw ac wedi eu pecynnu’n briodol.
8
At ddibenion paragraff (7), ystyr “wedi eu pecynnu’n briodol” yw bod y planhigion neu’r rhannau o blanhigion—
a
mewn pecyn neu gynhwysydd sydd wedi ei selio mewn modd sy’n atal y pecyn neu’r cynhwysydd rhag cael ei agor heb ddifrodi’r caead neu wneud y label swyddogol yn annilys; neu
b
yn rhan o fwndel sydd wedi ei glymu yn y fath fodd fel na ellir gwahanu’r planhigion neu’r rhannau o blanhigion sy’n rhan o’r bwndel heb ddifrodi’r cwlwm neu’r clymau.