RHAN 5Gweinyddu a dirymiadau
Trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol27
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw drefniadau gydag unrhyw berson (“A”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at ddiben galluogi A i gyflawni mesurau swyddogol o dan y Rheoliadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru.
2
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniant o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y trefniant yn gwneud darpariaeth at ddiben atal unrhyw berson rhag—
a
cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan y trefniant; a
b
cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
3
Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys mewn unrhyw drefniant y cyfryw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2), gan gynnwys amodau—
a
sy’n pennu—
i
y mesurau swyddogol y mae’n rhaid i A eu cyflawni;
ii
y dulliau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
iii
y ffioedd y caiff A eu codi mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
iv
y cofnodion y mae’n rhaid i A eu cadw mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
b
sy’n gwahardd A rhag—
i
codi ffioedd mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A o dan y trefniant ac eithrio i’r graddau nad yw’r ffioedd yn uwch na’r costau y mae A yn mynd iddynt wrth eu cyflawni;
ii
cyflawni’r mesurau swyddogol ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol;
c
sy’n gwahardd A rhag gwneud unrhyw drefniant pellach gydag unrhyw berson arall (“B”) at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae A wedi gwneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru i’w cyflawni, oni bai—
i
bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo holl amodau’r trefniant pellach a bod A wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw i wneud y trefniant pellach;
ii
bod y trefniant pellach yn cynnwys amod sy’n gwahardd B rhag gwneud unrhyw drefniadau dilynol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud y trefniant gydag A mewn cysylltiad â hwy;
iii
bod y trefniant pellach yn cynnwys cydnabyddiaeth gan A y caiff Gweinidogion Cymru amrywio, ddirymu neu atal dros dro y trefniant pellach os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw B yn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r trefniant pellach, neu bod B wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny; a
iv
bod y trefniadau pellach yn cynnwys yr amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r paragraff hwn, ac at y dibenion hyn mae cyfeiriadau yn yr is-baragraffau hynny at A i’w dehongli fel cyfeiriadau at B, ac mae cyfeiriadau at “y trefniant” i’w dehongli fel cyfeiriadau at y trefniant pellach.
4
Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo gwneud unrhyw drefniant pellach o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni na fydd B—
a
yn cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol y mae B i gael ei awdurdodi i’w cyflawni o dan y trefniant pellach;
b
yn cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant pellach ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
5
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i A neu B (yn ôl y digwydd), amrywio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw drefniant neu drefniant pellach, neu unrhyw amodau trefniant neu amodau trefniant pellach a wneir o dan y rheoliad hwn.
6
Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) bennu—
a
mewn cysylltiad ag amrywiad neu ddirymiad, y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dirymiad yn cael effaith;
b
mewn cysylltiad ag atal dros dro, y cyfnod pryd y mae’r atal dros dro yn cael effaith.
7
Pan fydd amrywiad, dirymiad neu ataliad dros dro yn cael effaith, caiff Gweinidogion Cymru, at unrhyw ddibenion mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, barhau i roi sylw i’r cyfryw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan drefniant (neu drefniant pellach) a gafodd ei amrywio, ei ddirymu neu ei atal dros dro yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn fesurau swyddogol a gyflawnir yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
8
Yn y rheoliad hwn, mae “mesurau swyddogol” yn cynnwys archwiliadau swyddogol, treialon tyfu, profion ac asesiadau.