RHAN 2Marchnata Deunyddiau Planhigion

Amrywogaethau y caniateir eu marchnata7

1

Mae deunyddiau planhigion o amrywogaeth y caniateir ei marchnata os yw’r amrywogaeth yn bodloni un neu ragor o ofynion paragraff (2).

2

Rhaid i’r amrywogaeth—

a

bod wedi cael hawliau amrywogaeth planhigion;

b

bod yn gofrestredig fel amrywogaeth;

c

bod yn destun cais am—

i

hawliau amrywogaeth planhigion; neu

ii

ei chofrestru fel amrywogaeth;

d

bod wedi ei marchnata cyn 30 Medi 2012 o fewn yr Undeb Ewropeaidd a bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; neu

e

mewn perthynas ag amrywogaethau sydd o ddim gwerth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol sy’n cael eu marchnata o fewn y Deyrnas Unedig—

i

bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; a

ii

bod yn ddeunyddiau CAC.

3

Rhaid i gyflenwr sy’n marchnata deunyddiau planhigion o amrywogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(e) sicrhau bod dogfen y cyflenwr yn mynd gyda’r deunyddiau planhigion, yn datgan eu bod yn cael eu marchnata yn unol ag ail baragraff Erthygl 7(2) o Gyfarwyddeb 2008/90/EC.

4

Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofrestredig fel amrywogaeth” (“registered as a variety”) (ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny) yw—

a

cofrestru fel amrywogaeth yng Nghymru yn unol ag Atodlen 4; neu

b

cofrestru fel amrywogaeth y tu allan i Gymru gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU.