xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2

ATODLEN 2Labeli swyddogol a dogfennau’r cyflenwr

RHAN 1Labeli swyddogol

1.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.

2.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn.

3.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau ardystiedig fod wedi ei liwio’n las.

4.  O ran label swyddogol—

(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;

(b)rhaid iddo gynnwys y datganiad “EU rules and standards”;

(c)rhaid iddo ddatgan y manylion a ganlyn—

(i)enw’r awdurdod cyfrifol neu fyrfodd neilltuol yr awdurdod hwnnw;

(ii)enw’r cyflenwr neu rif cofrestru’r cyflenwr;

(iii)rhif y dystysgrif arolygu cnwd;

(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;

(v)categori’r deunyddiau planhigion (deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC) ac, ar gyfer deunyddiau sylfaenol, rhif y cenhedliad;

(vi)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;

(vii)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;

(viii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;

(ix)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (vi) a (viii);

(x)pan fo’n briodol, y geiriau “variety with an officially recognised description”,

(xi)swm y deunyddiau planhigion;

(xii)os nad yng Nghymru, enw’r wlad lle y’u cynhyrchwyd a chod neu fyrfodd priodol y wlad honno;

(xiii)blwyddyn dyroddi’r label, neu yn achos label sy’n disodli label arall, blwyddyn dyroddi’r label gwreiddiol;

(xiv)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—

(aa)datganiad bod yr amrywogaeth wedi ei haddasu’n enetig; a

(bb)rhestr o’r organeddau a addaswyd yn enetig.

5.  Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion sy’n ofynnol ar label swyddogol gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u ddarllen.

6.  Caiff label swyddogol gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

7.  Yn y Rhan hon, ystyr “rhif y dystysgrif arolygu cnwd” yw’r rhif a roddir i’r dystysgrif arolygu cnwd gan yr arolygydd ar adeg dyroddi’r dystysgrif.

RHAN 2Dogfen y cyflenwr: Deunyddiau CAC

8.  Rhaid i ddogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC—

(a)cynnwys y datganiadau “EU rules and standards” a “CAC material”; a

(b)datgan y manylion a ganlyn—

(i)enw neu fyrfoddau neilltuol yr awdurdod cyfrifol a’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;

(ii)rhif cofrestru’r cyflenwr;

(iii)y rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu’r rhif swp unigol;

(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;

(v)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;

(vi)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;

(vii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;

(viii)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (v) a (vii);

(ix)y swm;

(x)y wlad lle’u cynhyrchwyd a’i byrfoddau neilltuol pan fo’n wahanol i’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;

(xi)dyddiad dyroddi dogfen y cyflenwr.

9.  Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn nogfen y cyflenwr gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen.

10.  Caiff dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC a gynhyrchir yng Nghymru gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.