xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
2. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn.
3. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau ardystiedig fod wedi ei liwio’n las.
4. O ran label swyddogol—
(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;
(b)rhaid iddo gynnwys y datganiad “EU rules and standards”;
(c)rhaid iddo ddatgan y manylion a ganlyn—
(i)enw’r awdurdod cyfrifol neu fyrfodd neilltuol yr awdurdod hwnnw;
(ii)enw’r cyflenwr neu rif cofrestru’r cyflenwr;
(iii)rhif y dystysgrif arolygu cnwd;
(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;
(v)categori’r deunyddiau planhigion (deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC) ac, ar gyfer deunyddiau sylfaenol, rhif y cenhedliad;
(vi)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;
(vii)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;
(viii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;
(ix)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (vi) a (viii);
(x)pan fo’n briodol, y geiriau “variety with an officially recognised description”,
(xi)swm y deunyddiau planhigion;
(xii)os nad yng Nghymru, enw’r wlad lle y’u cynhyrchwyd a chod neu fyrfodd priodol y wlad honno;
(xiii)blwyddyn dyroddi’r label, neu yn achos label sy’n disodli label arall, blwyddyn dyroddi’r label gwreiddiol;
(xiv)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—
(aa)datganiad bod yr amrywogaeth wedi ei haddasu’n enetig; a
(bb)rhestr o’r organeddau a addaswyd yn enetig.
5. Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion sy’n ofynnol ar label swyddogol gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u ddarllen.
6. Caiff label swyddogol gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
7. Yn y Rhan hon, ystyr “rhif y dystysgrif arolygu cnwd” yw’r rhif a roddir i’r dystysgrif arolygu cnwd gan yr arolygydd ar adeg dyroddi’r dystysgrif.