ATODLEN 2Labeli swyddogol a dogfennau’r cyflenwr

RHAN 2Dogfen y cyflenwr: Deunyddiau CAC

8

Rhaid i ddogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC—

a

cynnwys y datganiadau “EU rules and standards” a “CAC material”; a

b

datgan y manylion a ganlyn—

i

enw neu fyrfoddau neilltuol yr awdurdod cyfrifol a’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;

ii

rhif cofrestru’r cyflenwr;

iii

y rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu’r rhif swp unigol;

iv

enw botanegol y deunyddiau planhigion;

v

enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;

vi

yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;

vii

yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;

viii

ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (v) a (vii);

ix

y swm;

x

y wlad lle’u cynhyrchwyd a’i byrfoddau neilltuol pan fo’n wahanol i’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;

xi

dyddiad dyroddi dogfen y cyflenwr.

9

Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn nogfen y cyflenwr gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen.

10

Caiff dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC a gynhyrchir yng Nghymru gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.