xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 9
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “adnewyddu” (“renewal”) yw disodli planhigyn â phlanhigyn a gynhyrchir yn llystyfol ohono;
ystyr “arolygiad swyddogol” (“official inspection”) yw arolygiad gweledol a, phan fo’n briodol, gwaith samplu a phrofi a gyflawnir gan arolygydd yn unol â pharagraff 2;
ystyr “lluosi” (“multiplication”) yw atgynhyrchiad llystyfol planhigion er mwyn cael nifer digonol o blanhigion yn yr un categori;
ystyr “planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais” (“candidate pre-basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol y mae’r cyflenwr yn bwriadu iddo gael ei dderbyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol;
ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—
protocol a gyhoeddir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor mewn perthynas â’r gweithgarwch penodol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, waith samplu a phrofi neu luosi, adnewyddu a lluosogi, gan gynnwys drwy ficroluosogi, planhigion tarddiol) a’r genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw;
pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) yn bodoli, protocol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn perthynas â’r un materion; neu
pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) na (b) yn bodoli, protocol a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion.
2.—(1) Yn ystod arolygiad swyddogol, rhaid i arolygydd dalu sylw i—
(a)addasrwydd dulliau’r cyflenwr ar gyfer gwirio pob un o gamau allweddol y broses gynhyrchu, a’r defnydd o’r dulliau hynny;
(b)cymhwysedd cyffredinol staff y cyflenwr i gyflawni gwaith cynhyrchu neu atgynhyrchu deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau.
(2) Rhaid i arolygydd gadw cofnodion o ganlyniadau a dyddiadau pob arolygiad maes a’r holl waith samplu a phrofi a gyflawnir gan yr arolygydd hwnnw.
3.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol a gwreiddgyffion) yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—
(a)yn cael eu lluosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—
(i)wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;
(ii)yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;
(b)wedi cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 8;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;
(e)pan fônt wedi eu hawdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael eu tyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;
(f)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.
(3) Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau lluosogi yn bodloni’r gofynion perthnasol yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(4) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
4.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn cael ei luosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—
(i)drwy luosogi llystyfol neu rywiol, ac yn achos lluosogi rhywiol, gan goed sy’n peillio (coed peillio) a gynhyrchir yn uniongyrchol drwy luosogi llystyfol o blanhigyn tarddiol;
(ii)wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;
(iii)yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;
(b)wedi cael ei wirhau o ran ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i amrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;
(e)pan fo wedi ei awdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael ei dyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;
(f)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.
(3) Pan na fo gwreiddgyff, sy’n blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’n ddeunyddiau cyn-sylfaenol, yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(4) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
5.—(1) Caniateir derbyn planhigyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau—
(a)cydymffurfedd â pharagraffau 7 i 12; a
(b)bod ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth yn cael ei gadarnhau yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i arolygydd gadarnhau gwirdeiprwydd y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth.
(3) Rhaid i’r arsylwi hwnnw fod yn seiliedig ar un o’r elfennau a ganlyn—
(a)y disgrifiad swyddogol ar gyfer amrywogaethau a gofrestrwyd mewn cofrestr amrywogaethau, ac ar gyfer amrywogaethau sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol gan hawliau amrywogaeth planhigion;
(b)y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau;
(c)y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion;
(d)y disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, os yw’r amrywogaeth sy’n ddarostyngedig i’r disgrifiad hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau.
(4) Pan fo is-baragraff (3)(b) neu (c) yn gymwys—
(a)ni chaniateir derbyn y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol oni bai bod adroddiad a luniwyd gan arolygydd neu awdurdod cyfrifol y tu allan i Gymru ar gael sy’n profi bod yr amrywogaeth briodol yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
(b)hyd nes y cofrestrir yr amrywogaeth, ni chaniateir defnyddio’r planhigyn tarddiol o dan sylw a’r deunyddiau a gynhyrchir ohono ac eithrio ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol neu ddeunyddiau ardystiedig, ac ni chaniateir eu marchnata fel deunyddiau cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig.
(5) Pan fo ond yn bosibl cadarnhau gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar sail nodweddion planhigyn sy’n dwyn ffrwyth—
(a)rhaid cyflawni’r arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth ar ffrwythau planhigyn sy’n dwyn ffrwyth a luosogir o’r planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol; a
(b)rhaid cadw’r planhigion hynny sy’n dwyn ffrwyth ar wahân i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a’r deunyddiau cyn-sylfaenol.
(6) Rhaid cynnal arolygiad gweledol o blanhigion sy’n dwyn ffrwyth yn ystod y cyfnodau mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth amodau hinsoddol ac amodau tyfu planhigion o’r genera neu’r rhywogaethau o dan sylw.
(7) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cofrestr amrywogaethau” (“register of varieties”) yw—
mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau yng Nghymru, y gofrestr a gynhelir yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 4;
mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau y tu allan i Gymru, y gofrestr a gynhelir yn unol ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb 2014/97/EU;
ystyr “planhigyn sy’n dwyn ffrwyth” (“fruiting plant”) yw planhigyn a luosogir o blanhigyn tarddiol ac a dyfir i gynhyrchu ffrwyth er mwyn caniatáu gwirhau hunaniaeth amrywogaethol y planhigyn tarddiol hwnnw.
6. Caiff arolygydd dderbyn gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw’n wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth ac os yw’n cydymffurfio â pharagraffau 8 i 12.
7.—(1) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, wirhau gwirdeiprwydd planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn rheolaidd, yn unol â pharagraff 5(2) a (3), fel y bo’n briodol i’r amrywogaeth o dan sylw a’r dull lluosogi a ddefnyddir.
(2) Yn ogystal â gwirhau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rheolaidd, rhaid i’r arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, ar ôl pob achos o adnewyddu planhigyn tarddiol, wirhau’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n deillio ohono.
8.—(1) Rhaid i gyflenwr—
(a)cynnal planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn cyfleusterau a ddynodir ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau o dan sylw, sy’n ddiogel rhag pryfed ac yn sicrhau eu bod yn rhydd rhag heintio gan fectorau a gludir yn yr awyr ac unrhyw ffynonellau posibl eraill drwy gydol y broses gynhyrchu;
(b)tyfu neu gynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol wedi eu hynysu oddi wrth y pridd, mewn potiau a labelir yn unigol sy’n cynnwys cyfrwng tyfu nad yw’n cynnwys pridd neu sy’n cynnwys cyfrwng tyfu diheintiedig;
(c)sicrhau bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn cael eu nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;
(d)cadw planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais o dan amodau sy’n ddiogel rhag pryfed, ac wedi eu hynysu yn gorfforol oddi wrth blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill yn y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a), hyd nes bod yr holl brofion o ran cydymffurfedd â pharagraff 9 wedi eu cwblhau.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn awdurdodi cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol (gan gynnwys planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais) a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, a chaiff Weinidogion Cymru wneud hynny os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi awdurdodi’r Deyrnas Unedig i wneud hynny o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
(b)bod y planhigion a’r deunyddiau wedi eu nodi â labeli sy’n sicrhau y gellir eu holrhain; ac
(c)y cymerir camau priodol i atal heintio’r planhigion a’r deunyddiau gan fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio neu unrhyw ffynhonnell bosibl arall.
(3) O ran planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol—
(a)caniateir eu cynnal drwy rewgadw; a
(b)ni chaniateir eu defnyddio ac eithrio am gyfnod a gyfrifir ar sail sefydlogrwydd yr amrywogaeth neu’r amodau amgylcheddol y’u tyfir oddi tanynt ac unrhyw benderfynyddion eraill sy’n effeithio ar sefydlogrwydd yr amrywogaeth.
9.—(1) Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a gynhyrchir drwy adnewyddu fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Caiff hyn ei gadarnhau—
(a)ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol, ac mewn achosion lle ceir amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi;
(b)ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol a gwaith samplu a phrofi.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), o ran gwaith samplu a phrofi—
(a)rhaid i’r gwaith gael ei gyflawni gan arolygydd neu, pan fo’n briodol, gan y cyflenwr yn unol â’r protocol priodol;
(b)mewn perthynas â firysau, firoidau a chlefydau sy’n debyg i firysau a ffytoplasmau, drwy ddull mynegeio biolegol ar blanhigion dangosol, neu drwy’r cyfryw ddull arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ddibynadwy;
(c)rhaid cynnal y gwaith hwnnw—
(i)yn ystod y cyfnod mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol ac amodau tyfu’r planhigyn, a bioleg y plâu sy’n berthnasol i’r planhigyn hwnnw;
(ii)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
(4) Pan fo planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais yn eginblanhigyn, nid yw arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi ond yn ofynnol mewn cysylltiad â’r firysau, y firoidau neu’r clefydau sy’n debyg i firysau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a drosglwyddir gan baill—
(a)os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau y tyfwyd yr eginblanhigyn o hedyn a gynhyrchwyd gan blanhigyn sy’n rhydd rhag symptomau a achosir gan y firysau, y firoidau a’r clefydau hynny sy’n debyg i firysau;
(b)os yw’r eginblanhigyn wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8.
10.—(1) Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol cyn sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn ystod rhewgadw.
(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
11.—(1) Rhaid tyfu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
(3) Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
(a)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(b)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
12.—(1) Rhaid canfod bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas ar sail arolygiad gweledol.
(2) Rhaid i’r arolygiad gweledol hwnnw gael ei gyflawni gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
13.—(1) Caiff cyflenwr luosi neu adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol a dderbynnir yn unol â pharagraff 5.
(2) Caiff cyflenwr luosogi planhigion tarddiol cyn-sylfaenol i gynhyrchu deunyddiau cyn-sylfaenol.
(3) Rhaid lluosi, adnewyddu a lluosogi (gan gynnwys microluosogi) planhigion tarddiol cyn-sylfaenol yn unol â’r protocol priodol.
(4) Yn achos microluosogi, rhaid i’r protocol priodol fod wedi ei brofi ar y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol am gyfnod o amser a ystyrir yn ddigonol i alluogi gwirio ffenoteip y planhigion o ran gwirdeiprwydd yr amrywogaeth mewn perthynas â’r disgrifiad ohoni ar sail arsylwi ar gynhyrchiant ffrwythau neu ddatblygiad llystyfol y gwreiddgyffion.
(5) Ni chaiff cyflenwr ond adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 8(3)(b).
14.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol sylfaenol a gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—
(a)yn cael eu lluosogi o blanhigyn tarddiol sylfaenol—
(i)a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol;
(ii)a gynhyrchir drwy luosi o blanhigyn tarddiol sylfaenol yn unol â pharagraff 19;
(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;
(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;
(g)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18; a
(h)pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) i (h) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.
(4) Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
15.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth;
(b)yn cael ei nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;
(f)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;
(g)wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 18; a
(h)pan fo’n briodol, wedi ei luosi yn unol â pharagraff 19.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.
(4) Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol sylfaenol neu’n ddeunyddiau sylfaenol nad yw’n bodloni gofynion is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
16.—(1) Rhaid i blanhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn ystod rhewgadw.
(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
17.—(1) Ni chaniateir tyfu planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol ac eithrio mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
(3) Rhaid i waith samplu a phrofi gael ei gyflawni—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid oes angen cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(b)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
18. Rhaid cynnal planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol mewn meysydd sydd wedi eu hynysu’n bell oddi wrth ffynonellau heintio posibl, gan gynnwys fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio ac unrhyw ffynhonnell bosibl arall.
19.—(1) Caniateir lluosi planhigion tarddiol sylfaenol a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol mewn nifer o genedliadau er mwyn cael y nifer angenrheidiol o blanhigion tarddiol sylfaenol yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Rhaid gwneud unrhyw luosi o blanhigion tarddiol sylfaenol o dan is-baragraff (1) yn unol â pharagraff 13 ac, at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae cyfeiriad at blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol ym mharagraff 13 i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigyn tarddiol sylfaenol.
(3) Ni chaiff y nifer uchaf o genedliadau a ganiateir, na’r hyd oes hwyaf a ganiateir ar gyfer planhigyn tarddiol sylfaenol, fod yn uwch na’r terfynau a bennir yn Atodlen V i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau perthnasol.
(4) Pan ganiateir cenedliadau lluosog o blanhigion tarddiol sylfaenol, caiff pob cenhedliad, ac eithrio’r cyntaf, ddeillio o unrhyw genhedliad blaenorol.
(5) Rhaid cadw deunyddiau lluosogi o genedliadau gwahanol ar wahân.
20.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau yn ddeunyddiau ardystiedig os yw’r deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau—
(a)yn cael eu tyfu o blanhigion tarddiol ardystiedig a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
(4) Pan na fo planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) i (f) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
21.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunydd ardystiedig os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn cael ei dyfu o blanhigyn tarddiol ardystiedig a dyfwyd o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
(b)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(c)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
(e)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
(4) Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol ardystiedig neu’n ddeunyddiau ardystiedig nad yw’n bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
22.—(1) Rhaid i blanhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn ystod rhewgadw.
(4) Mae arolygydd a, phan fo’n briodol, cyflenwr, yn cadarnhau cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
23.—(1) Rhaid tyfu planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
(3) Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y cyfryw blâu;
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol, bioleg y plâu, a pherthnasedd y plâu i’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
(a)yn achos planhigion ffrwythau ardystiedig;
(b)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(c)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.