ATODLEN 1Deunyddiau CAC
Amodau ar gyfer deunyddiau CAC (ac eithrio gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth)1
1
Ni chaniateir marchnata deunyddiau CAC (ac eithrio gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y deunyddiau CAC—
a
yn cael eu lluosogi o ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig a gofnodir gan y cyflenwr;
b
yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn unol â pharagraff 3;
c
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4; a
d
yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5.
3
Pan na fo deunyddiau CAC yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr eu symud ymaith o gyffiniau deunyddiau CAC eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y deunyddiau hynny yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) eto.
Gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth2
1
Ni chaniateir marchnata deunyddiau CAC sy’n cynnwys gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y deunyddiau CAC—
a
yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’u rhywogaeth;
b
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4; ac
c
yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5.
3
Pan na fo deunyddiau CAC yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr eu symud ymaith o gyffiniau deunyddiau CAC eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y deunyddiau hynny yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) eto.
Gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth3
1
Rhaid i gyflenwr gadarnhau gwirdeiprwydd deunyddiau CAC mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn unol â’r paragraff hwn, a gwirhau’r gwirdeiprwydd hwnnw yn rheolaidd.
2
Gwneir hynny drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion amrywogaeth, a bod yr arsylwi ar sail un o’r elfennau a ganlyn—
a
ei disgrifiad swyddogol;
b
y disgrifiad sy’n mynd gyda chais i gofrestru;
c
y disgrifiad sy’n mynd gyda chais am hawliau amrywogaeth planhigion;
d
pan fo’r amrywogaeth wedi ei chofrestru â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, neu’n destun cais i gofrestru â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, y disgrifiad hwnnw.
Gofynion iechyd4
1
Rhaid i’r deunyddiau CAC fod yn rhydd i bob pwrpas rhag y plâu a restrir yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
2
Caiff hyn ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr neu, pan fo amheuaeth, drwy waith samplu a phrofi.
3
Rhaid cyflawni arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.
4
Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.
5
O ran deunyddiau CAC sy’n perthyn i’r rhywogaeth Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf—
a
rhaid eu cynhyrchu o ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig y canfuwyd ei bod, drwy waith samplu a phrofi, yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y rhywogaethau hynny; a
b
ers dechrau’r cylch llystyfiant diwethaf, rhaid bod wedi canfod, drwy arolygiad gweledol ac unrhyw waith samplu a phrofi, eu bod yn rhydd i bob pwrpas rhag y plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y rhywogaethau o dan sylw.
6
Yn y paragraff hwn, ystyr “rhydd i bob pwrpas rhag y plâu” yw bod y graddau y mae plâu yn bresennol ar y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn ddigon isel i sicrhau bod y deunyddiau lluosogi o ansawdd a defnyddioldeb derbyniol.
Gofynion ynghylch diffygion sy’n debygol o amharu ar ansawdd5
1
Rhaid i ddeunyddiau CAC fod yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas.
2
Caiff hyn ei gadarnhau ar sail arolygiad gweledol.
3
Mae anafiadau, afliwiad, meinweoedd creithiol neu ddysychiad yn cael eu hystyried yn ddiffygion, os ydynt yn effeithio ar ansawdd a defnyddioldeb deunyddiau CAC fel deunyddiau lluosogi.
ATODLEN 2Labeli swyddogol a dogfennau’r cyflenwr
RHAN 1Labeli swyddogol
1
Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
2
Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn.
3
Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau ardystiedig fod wedi ei liwio’n las.
4
O ran label swyddogol—
a
ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;
b
rhaid iddo gynnwys y datganiad “EU rules and standards”;
c
rhaid iddo ddatgan y manylion a ganlyn—
i
enw’r awdurdod cyfrifol neu fyrfodd neilltuol yr awdurdod hwnnw;
ii
enw’r cyflenwr neu rif cofrestru’r cyflenwr;
iii
rhif y dystysgrif arolygu cnwd;
iv
enw botanegol y deunyddiau planhigion;
v
categori’r deunyddiau planhigion (deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC) ac, ar gyfer deunyddiau sylfaenol, rhif y cenhedliad;
vi
enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;
vii
yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;
viii
yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;
ix
ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (vi) a (viii);
x
pan fo’n briodol, y geiriau “variety with an officially recognised description”,
xi
swm y deunyddiau planhigion;
xii
os nad yng Nghymru, enw’r wlad lle y’u cynhyrchwyd a chod neu fyrfodd priodol y wlad honno;
xiii
blwyddyn dyroddi’r label, neu yn achos label sy’n disodli label arall, blwyddyn dyroddi’r label gwreiddiol;
xiv
yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—
aa
datganiad bod yr amrywogaeth wedi ei haddasu’n enetig; a
bb
rhestr o’r organeddau a addaswyd yn enetig.
5
Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion sy’n ofynnol ar label swyddogol gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u ddarllen.
6
Caiff label swyddogol gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
7
Yn y Rhan hon, ystyr “rhif y dystysgrif arolygu cnwd” yw’r rhif a roddir i’r dystysgrif arolygu cnwd gan yr arolygydd ar adeg dyroddi’r dystysgrif.
RHAN 2Dogfen y cyflenwr: Deunyddiau CAC
8
Rhaid i ddogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC—
a
cynnwys y datganiadau “EU rules and standards” a “CAC material”; a
b
datgan y manylion a ganlyn—
i
enw neu fyrfoddau neilltuol yr awdurdod cyfrifol a’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;
ii
rhif cofrestru’r cyflenwr;
iii
y rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu’r rhif swp unigol;
iv
enw botanegol y deunyddiau planhigion;
v
enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;
vi
yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;
vii
yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;
viii
ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (v) a (vii);
ix
y swm;
x
y wlad lle’u cynhyrchwyd a’i byrfoddau neilltuol pan fo’n wahanol i’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;
xi
dyddiad dyroddi dogfen y cyflenwr.
9
Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn nogfen y cyflenwr gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen.
10
Caiff dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC a gynhyrchir yng Nghymru gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
ATODLEN 3Y genera a’r rhywogaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
Genera a rhywogaethau | Enw cyffredin (er arweiniad yn unig) |
---|---|
Castanea sativa Mill. | Castanwydden bêr |
Citrus L. | yn cynnwys coed Grawnffrwyth, Lemwn, Leim, Mandarin ac Oren |
Corylus avellana L. | Collen |
Cydonia oblonga Mill. | Coeden gwins |
Ficus carica L. | Ffigysbren |
Fortunella Swingle | Coeden gymcwat |
Fragaria L. | Pob rywogaeth mefus a dyfir |
Juglans regia L. | Coeden cnau Ffrengig |
Malus Mill. | Coeden afalau |
Olea europaea L. | Olewydden |
Pistacia vera L. | Coeden bistasio |
Poncirus Raf. | Coeden orenau teirddeiliog |
Prunus armeniaca L. | Bricyllwydden |
Prunus avium (L.) L. | Coeden ceirios melys |
Prunus cerasus L. | Coeden ceirios duon |
Prunus domestica L. | Coeden eirin |
Prunus dulcis (Mill) D A Webb (a elwir fel arall yn Prunus amygdalus Batsch) | Coeden almon |
Prunus persica (L.) Batsch | Coeden eirin gwlanog |
Prunus salicina Lindley | Coeden eirin Siapan |
Pyrus L. | Pob math o goed gellyg bwytadwy a dyfir, gan gynnwys gellyg perai |
Ribes L. | Llwyn cyrens duon, eirin Mair, cyrens cochion a chyrens gwynion |
Rubus L. | Llwyn mwyar duon, mafon a mwyar cymysgryw |
Vaccinium L. | yn cynnwys llwyn llus America, llugaeron a llus |
ATODLEN 4Cofrestru amrywogaethau
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/18/EC” (“Directive 2001/18/EC”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddhau’n fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC16;
ystyr “gwahanol” (“distinct”) yw bod yr amrywogaeth yn amlwg yn wahanol, oherwydd un neu ragor o nodweddion sy’n deillio o genoteip penodol neu gyfuniad o genoteipiau, i unrhyw amrywogaeth arall y mae ei bodolaeth yn hysbys i bawb ar adeg y cais i gofrestru yn amrywogaeth;
ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—
- a
protocol a gyhoeddir gan Gyngor Gweinyddol Swyddfa Amrywogaethau Planhigion y Gymuned mewn perthynas â phrofion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd ar gyfer y genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw; neu
- b
pan na fo protocol wedi ei gyhoeddi ar gyfer y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol, canllawiau a lunnir gan UPOV mewn perthynas â chynnal profion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd; neu
- c
pan na fo’r protocolau a grybwyllir ym mharagraff (a) na’r canllawiau a grybwyllir ym mharagraff (b) yn bodoli, protocol neu ganllawiau a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion;
- a
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003” (“Regulation (EC) No 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi eu haddasu’n enetig17;
ystyr “sefydlog” (“stable”) yw bod nodweddion yr amrywogaeth, sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad o’r amrywogaeth, yn parhau yn ddigyfnewid ar ôl lluosogi mynych neu, yn achos microluosogi, ar ddiwedd pob cylch o’r fath;
ystyr “unffurf” (“uniform”), yn amodol ar yr amrywiadau y gellir eu disgwyl yn sgil nodweddion penodol ei lluosogi, yw bod yr amrywogaeth yn ddigon unffurf o ran y nodweddion hynny sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir i ddisgrifio’r amrywogaeth.
Cais i gofrestru â disgrifiad swyddogol2
1
Rhaid i gais i gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais—
a
unrhyw wybodaeth dechnegol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, fanylion y genws a’r rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddynt, ei henw cyffredin, manylion y ceisydd, ac enw, tarddiad a nodweddion yr amrywogaeth) sy’n ofynnol o dan brotocol priodol sy’n berthnasol i’r rhywogaeth;
b
gwybodaeth ynghylch a yw’r amrywogaeth wedi ei chofrestru’n swyddogol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall, neu a yw’n destun cais cofrestru o’r fath;
c
enw arfaethedig; a
d
y cyfryw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
3
Pan fo’n gymwys, caniateir i gais fynd gyda manylion disgrifiad swyddogol a bennir gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
Cofrestru3
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol os ydynt wedi eu bodloni—
a
bod yr amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
b
bod sampl o’r amrywogaeth ar gael; ac
c
mewn perthynas ag amrywogaethau a addaswyd yn enetig, fod yr organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru dderbyn bod amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog ar sail canlyniadau treialon tyfu yn unol â pharagraff 6.
3
Nid yw’n ofynnol cynnal treialon tyfu pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gan y cais, fod disgrifiad swyddogol a bennir gan gorff swyddogol y tu allan i Gymru yn bodloni’r amodau cofrestru sy’n ofynnol gan is-baragraff (1).
4
Caiff Gweinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth sydd wedi ei marchnata o fewn yr Undeb Ewropeaidd cyn 30 Medi 2012 ar yr amod bod gan yr amrywogaeth ddisgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol.
Cofrestr amrywogaethau4
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi cofrestr o amrywogaethau (“y gofrestr”).
2
Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob amrywogaeth gofrestredig—
a
enw’r amrywogaeth a’i chyfystyron;
b
y rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddi;
c
y dynodiad ‘official description’ neu ‘officially recognised description’, fel y bo’n briodol;
d
y dyddiad cofrestru neu, pan fo’n gymwys, ddyddiad adnewyddu’r cofrestriad;
e
dyddiad dod i ben dilysrwydd y cofrestriad.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, mewn perthynas â phob amrywogaeth a gofrestrir, gadw ffeil sy’n cynnwys disgrifiad o’r amrywogaeth a chrynodeb o’r ffeithiau sy’n berthnasol i’w chofrestriad.
Gofynion ychwanegol ar gyfer cynnyrch sydd i’w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig5
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw amrywogaeth y mae cynhyrchion sydd i’w defnyddio fel y pethau a ganlyn, neu yn y pethau a ganlyn, yn deillio ohoni—
a
bwyd o fewn cwmpas Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu
b
bwyd anifeiliaid o fewn cwmpas Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
2
Cyn cofrestru unrhyw amrywogaeth o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y bwyd neu’r bwyd anifeiliaid wedi ei awdurdodi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003.
3
Pan fo’n ofynnol cynnal treial tyfu, rhaid cyflwyno sampl o ddeunyddiau’r amrywogaeth ar gais.
Treialon tyfu6
1
Caniateir cynnal treialon tyfu—
a
gan Weinidogion Cymru;
b
ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â’r trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol a wneir o dan reoliad 27; neu
c
gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
2
Rhaid i dreialon tyfu—
a
cadarnhau a yw amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog; a
b
cael eu cynnal, o ran cynllun y treialon, yr amodau tyfu a nodweddion yr amrywogaeth o dan sylw, yn unol â’r protocol priodol.
Parhad cofrestriad ac adnewyddu cofrestriad7
1
Mae cofrestriad amrywogaeth yn ddilys—
a
yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig, am y cyfnod y mae’r organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu
b
fel arall hyd at ddiwedd y 30ain blwyddyn galendr ar ôl y dyddiad derbyn.
2
Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r cofrestriad—
a
yn cael ei adnewyddu yn unol ag is-baragraff (3) neu (4) (fel y bo’n briodol);
b
yn cael ei ddirymu yn unol â pharagraff 8.
3
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru, ar sail cais ysgrifenedig, adnewyddu’r cofrestriad am gyfnod pellach o 30 o flynyddoedd—
a
os yw’r amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
b
os oes deunyddiau o’r amrywogaeth honno ar gael ar y farchnad.
4
Yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—
a
rhaid i unrhyw achos o adnewyddu cofrestriad fod yn ddarostyngedig i amod bod yr organedd a addaswyd yn enetig priodol yn parhau i fod wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003;
b
rhaid i’r cyfnod adnewyddu fod yn gyfyngedig i gyfnod awdurdodi’r organedd a addaswyd yn enetig o dan sylw.
5
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu’r cofrestriad heb gais ysgrifenedig os ydynt wedi eu bodloni bod adnewyddu yn gwarchod amrywiaeth enetig a chynhyrchu cynaliadwy.
Dileu o’r gofrestr8
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu cofrestriad amrywogaeth—
a
os nad yw’n wahanol, yn unffurf neu’n sefydlog mwyach;
b
os nad oes unrhyw ddeunydd o’r amrywogaeth honno ar gael mwyach sy’n ddigon unffurf neu sy’n cyfateb i’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar yr adeg y’i cofrestrwyd;
c
os darparwyd gwybodaeth anwir neu gamarweiniol sy’n berthnasol i gofrestru i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais i gofrestru;
d
yn achos unrhyw amrywogaeth a addaswyd yn enetig, os yw’r organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi ei gynnwys yn yr amrywogaeth yn peidio â bod yn awdurdodedig yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
2
Ond nid yw is-baragraff (1)(a) i (c) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylai’r amrywogaeth barhau ar y gofrestr er budd gwarchod amrywiaeth enetig amrywogaethau.
ATODLEN 5Ardystio deunyddiau planhigion
RHAN 1Rhagarweiniad
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “adnewyddu” (“renewal”) yw disodli planhigyn â phlanhigyn a gynhyrchir yn llystyfol ohono;
ystyr “arolygiad swyddogol” (“official inspection”) yw arolygiad gweledol a, phan fo’n briodol, gwaith samplu a phrofi a gyflawnir gan arolygydd yn unol â pharagraff 2;
ystyr “lluosi” (“multiplication”) yw atgynhyrchiad llystyfol planhigion er mwyn cael nifer digonol o blanhigion yn yr un categori;
ystyr “planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais” (“candidate pre-basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol y mae’r cyflenwr yn bwriadu iddo gael ei dderbyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol;
ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—
- a
protocol a gyhoeddir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor mewn perthynas â’r gweithgarwch penodol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, waith samplu a phrofi neu luosi, adnewyddu a lluosogi, gan gynnwys drwy ficroluosogi, planhigion tarddiol) a’r genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw;
- b
pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) yn bodoli, protocol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn perthynas â’r un materion; neu
- c
pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) na (b) yn bodoli, protocol a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion.
- a
Arolygiadau swyddogol2
1
Yn ystod arolygiad swyddogol, rhaid i arolygydd dalu sylw i—
a
addasrwydd dulliau’r cyflenwr ar gyfer gwirio pob un o gamau allweddol y broses gynhyrchu, a’r defnydd o’r dulliau hynny;
b
cymhwysedd cyffredinol staff y cyflenwr i gyflawni gwaith cynhyrchu neu atgynhyrchu deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau.
2
Rhaid i arolygydd gadw cofnodion o ganlyniadau a dyddiadau pob arolygiad maes a’r holl waith samplu a phrofi a gyflawnir gan yr arolygydd hwnnw.
RHAN 2Ardystio deunyddiau cyn-sylfaenol
Deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol a gwreiddgyffion)3
1
Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol a gwreiddgyffion) yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—
a
yn cael eu lluosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—
i
wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;
ii
yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;
b
wedi cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
c
wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 8;
d
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;
e
pan fônt wedi eu hawdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael eu tyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;
f
yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.
3
Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau lluosogi yn bodloni’r gofynion perthnasol yn is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
4
Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
Gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth4
1
Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
a
yn cael ei luosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—
i
drwy luosogi llystyfol neu rywiol, ac yn achos lluosogi rhywiol, gan goed sy’n peillio (coed peillio) a gynhyrchir yn uniongyrchol drwy luosogi llystyfol o blanhigyn tarddiol;
ii
wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;
iii
yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;
b
wedi cael ei wirhau o ran ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i amrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
c
wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8;
d
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;
e
pan fo wedi ei awdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael ei dyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;
f
yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.
3
Pan na fo gwreiddgyff, sy’n blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’n ddeunyddiau cyn-sylfaenol, yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
4
Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
Gofynion ar gyfer derbyn planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol5
1
Caniateir derbyn planhigyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau—
a
cydymffurfedd â pharagraffau 7 i 12; a
b
bod ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth yn cael ei gadarnhau yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Rhaid i arolygydd gadarnhau gwirdeiprwydd y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth.
3
Rhaid i’r arsylwi hwnnw fod yn seiliedig ar un o’r elfennau a ganlyn—
a
y disgrifiad swyddogol ar gyfer amrywogaethau a gofrestrwyd mewn cofrestr amrywogaethau, ac ar gyfer amrywogaethau sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol gan hawliau amrywogaeth planhigion;
b
y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau;
c
y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion;
d
y disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, os yw’r amrywogaeth sy’n ddarostyngedig i’r disgrifiad hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau.
4
Pan fo is-baragraff (3)(b) neu (c) yn gymwys—
a
ni chaniateir derbyn y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol oni bai bod adroddiad a luniwyd gan arolygydd neu awdurdod cyfrifol y tu allan i Gymru ar gael sy’n profi bod yr amrywogaeth briodol yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
b
hyd nes y cofrestrir yr amrywogaeth, ni chaniateir defnyddio’r planhigyn tarddiol o dan sylw a’r deunyddiau a gynhyrchir ohono ac eithrio ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol neu ddeunyddiau ardystiedig, ac ni chaniateir eu marchnata fel deunyddiau cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig.
5
Pan fo ond yn bosibl cadarnhau gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar sail nodweddion planhigyn sy’n dwyn ffrwyth—
a
rhaid cyflawni’r arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth ar ffrwythau planhigyn sy’n dwyn ffrwyth a luosogir o’r planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol; a
b
rhaid cadw’r planhigion hynny sy’n dwyn ffrwyth ar wahân i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a’r deunyddiau cyn-sylfaenol.
6
Rhaid cynnal arolygiad gweledol o blanhigion sy’n dwyn ffrwyth yn ystod y cyfnodau mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth amodau hinsoddol ac amodau tyfu planhigion o’r genera neu’r rhywogaethau o dan sylw.
7
Yn y paragraff hwn—
ystyr “cofrestr amrywogaethau” (“register of varieties”) yw—
- a
mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau yng Nghymru, y gofrestr a gynhelir yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 4;
- b
mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau y tu allan i Gymru, y gofrestr a gynhelir yn unol ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb 2014/97/EU;
- a
ystyr “planhigyn sy’n dwyn ffrwyth” (“fruiting plant”) yw planhigyn a luosogir o blanhigyn tarddiol ac a dyfir i gynhyrchu ffrwyth er mwyn caniatáu gwirhau hunaniaeth amrywogaethol y planhigyn tarddiol hwnnw.
Y gofynion ar gyfer derbyn gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth6
Caiff arolygydd dderbyn gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw’n wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth ac os yw’n cydymffurfio â pharagraffau 8 i 12.
Gwirhau gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth7
1
Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, wirhau gwirdeiprwydd planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn rheolaidd, yn unol â pharagraff 5(2) a (3), fel y bo’n briodol i’r amrywogaeth o dan sylw a’r dull lluosogi a ddefnyddir.
2
Yn ogystal â gwirhau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rheolaidd, rhaid i’r arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, ar ôl pob achos o adnewyddu planhigyn tarddiol, wirhau’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n deillio ohono.
Gofynion cynnal: deunyddiau cyn-sylfaenol a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol8
1
Rhaid i gyflenwr—
a
cynnal planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn cyfleusterau a ddynodir ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau o dan sylw, sy’n ddiogel rhag pryfed ac yn sicrhau eu bod yn rhydd rhag heintio gan fectorau a gludir yn yr awyr ac unrhyw ffynonellau posibl eraill drwy gydol y broses gynhyrchu;
b
tyfu neu gynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol wedi eu hynysu oddi wrth y pridd, mewn potiau a labelir yn unigol sy’n cynnwys cyfrwng tyfu nad yw’n cynnwys pridd neu sy’n cynnwys cyfrwng tyfu diheintiedig;
c
sicrhau bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn cael eu nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;
d
cadw planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais o dan amodau sy’n ddiogel rhag pryfed, ac wedi eu hynysu yn gorfforol oddi wrth blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill yn y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a), hyd nes bod yr holl brofion o ran cydymffurfedd â pharagraff 9 wedi eu cwblhau.
2
Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn awdurdodi cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol (gan gynnwys planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais) a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, a chaiff Weinidogion Cymru wneud hynny os ydynt wedi eu bodloni—
a
bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi awdurdodi’r Deyrnas Unedig i wneud hynny o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
b
bod y planhigion a’r deunyddiau wedi eu nodi â labeli sy’n sicrhau y gellir eu holrhain; ac
c
y cymerir camau priodol i atal heintio’r planhigion a’r deunyddiau gan fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio neu unrhyw ffynhonnell bosibl arall.
3
O ran planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol—
a
caniateir eu cynnal drwy rewgadw; a
b
ni chaniateir eu defnyddio ac eithrio am gyfnod a gyfrifir ar sail sefydlogrwydd yr amrywogaeth neu’r amodau amgylcheddol y’u tyfir oddi tanynt ac unrhyw benderfynyddion eraill sy’n effeithio ar sefydlogrwydd yr amrywogaeth.
Gofynion iechyd: planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a gynhyrchir drwy adnewyddu9
1
Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a gynhyrchir drwy adnewyddu fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
2
Caiff hyn ei gadarnhau—
a
ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol, ac mewn achosion lle ceir amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi;
b
ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol a gwaith samplu a phrofi.
3
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), o ran gwaith samplu a phrofi—
a
rhaid i’r gwaith gael ei gyflawni gan arolygydd neu, pan fo’n briodol, gan y cyflenwr yn unol â’r protocol priodol;
b
mewn perthynas â firysau, firoidau a chlefydau sy’n debyg i firysau a ffytoplasmau, drwy ddull mynegeio biolegol ar blanhigion dangosol, neu drwy’r cyfryw ddull arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ddibynadwy;
c
rhaid cynnal y gwaith hwnnw—
i
yn ystod y cyfnod mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol ac amodau tyfu’r planhigyn, a bioleg y plâu sy’n berthnasol i’r planhigyn hwnnw;
ii
mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
4
Pan fo planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais yn eginblanhigyn, nid yw arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi ond yn ofynnol mewn cysylltiad â’r firysau, y firoidau neu’r clefydau sy’n debyg i firysau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a drosglwyddir gan baill—
a
os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau y tyfwyd yr eginblanhigyn o hedyn a gynhyrchwyd gan blanhigyn sy’n rhydd rhag symptomau a achosir gan y firysau, y firoidau a’r clefydau hynny sy’n debyg i firysau;
b
os yw’r eginblanhigyn wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8.
Gofynion iechyd: deunyddiau cyn-sylfaenol a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol10
1
Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
2
Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol cyn sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
3
Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn ystod rhewgadw.
4
Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
5
Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
Gofynion pridd: deunyddiau cyn-sylfaenol11
1
Rhaid tyfu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
2
Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
3
Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
a
cyn plannu’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);
b
gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol o dan sylw;
c
yn unol â’r protocol priodol.
4
Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
a
pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
b
pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
Gofynion ynghylch diffygion sy’n debygol o amharu ar ansawdd12
1
Rhaid canfod bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas ar sail arolygiad gweledol.
2
Rhaid i’r arolygiad gweledol hwnnw gael ei gyflawni gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
Gofynion ynghylch lluosi, adnewyddu a lluosogi planhigion tarddiol cyn-sylfaenol13
1
Caiff cyflenwr luosi neu adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol a dderbynnir yn unol â pharagraff 5.
2
Caiff cyflenwr luosogi planhigion tarddiol cyn-sylfaenol i gynhyrchu deunyddiau cyn-sylfaenol.
3
Rhaid lluosi, adnewyddu a lluosogi (gan gynnwys microluosogi) planhigion tarddiol cyn-sylfaenol yn unol â’r protocol priodol.
4
Yn achos microluosogi, rhaid i’r protocol priodol fod wedi ei brofi ar y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol am gyfnod o amser a ystyrir yn ddigonol i alluogi gwirio ffenoteip y planhigion o ran gwirdeiprwydd yr amrywogaeth mewn perthynas â’r disgrifiad ohoni ar sail arsylwi ar gynhyrchiant ffrwythau neu ddatblygiad llystyfol y gwreiddgyffion.
5
Ni chaiff cyflenwr ond adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 8(3)(b).
RHAN 3Ardystio deunyddiau sylfaenol
Deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol sylfaenol a gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth)14
1
Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol sylfaenol a gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—
a
yn cael eu lluosogi o blanhigyn tarddiol sylfaenol—
i
a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol;
ii
a gynhyrchir drwy luosi o blanhigyn tarddiol sylfaenol yn unol â pharagraff 19;
b
yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
c
yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
d
yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
e
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;
f
yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;
g
wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18; a
h
pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19.
3
At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) i (h) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.
4
Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
5
Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
Gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth15
1
Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
a
yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth;
b
yn cael ei nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;
c
yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
d
yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
e
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;
f
yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;
g
wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 18; a
h
pan fo’n briodol, wedi ei luosi yn unol â pharagraff 19.
3
At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.
4
Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol sylfaenol neu’n ddeunyddiau sylfaenol nad yw’n bodloni gofynion is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
5
Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
Gofynion iechyd: planhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol16
1
Rhaid i blanhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
2
Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
3
Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn ystod rhewgadw.
4
Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
5
Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
Gofynion pridd: deunyddiau sylfaenol17
1
Ni chaniateir tyfu planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol ac eithrio mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
2
Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
3
Rhaid i waith samplu a phrofi gael ei gyflawni—
a
cyn plannu’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);
b
gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol o dan sylw;
c
yn unol â’r protocol priodol.
4
Nid oes angen cyflawni gwaith samplu a phrofi—
a
pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
b
pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
Gofynion cynnal: planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol18
Rhaid cynnal planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol mewn meysydd sydd wedi eu hynysu’n bell oddi wrth ffynonellau heintio posibl, gan gynnwys fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio ac unrhyw ffynhonnell bosibl arall.
Amodau lluosi: planhigion tarddiol sylfaenol19
1
Caniateir lluosi planhigion tarddiol sylfaenol a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol mewn nifer o genedliadau er mwyn cael y nifer angenrheidiol o blanhigion tarddiol sylfaenol yn unol â’r paragraff hwn.
2
Rhaid gwneud unrhyw luosi o blanhigion tarddiol sylfaenol o dan is-baragraff (1) yn unol â pharagraff 13 ac, at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae cyfeiriad at blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol ym mharagraff 13 i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigyn tarddiol sylfaenol.
3
Ni chaiff y nifer uchaf o genedliadau a ganiateir, na’r hyd oes hwyaf a ganiateir ar gyfer planhigyn tarddiol sylfaenol, fod yn uwch na’r terfynau a bennir yn Atodlen V i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau perthnasol.
4
Pan ganiateir cenedliadau lluosog o blanhigion tarddiol sylfaenol, caiff pob cenhedliad, ac eithrio’r cyntaf, ddeillio o unrhyw genhedliad blaenorol.
5
Rhaid cadw deunyddiau lluosogi o genedliadau gwahanol ar wahân.
RHAN 4Ardystio deunyddiau ardystiedig
Deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau20
1
Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau yn ddeunyddiau ardystiedig os yw’r deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau—
a
yn cael eu tyfu o blanhigion tarddiol ardystiedig a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
b
yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
c
yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
d
yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
e
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
f
yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
3
At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
4
Pan na fo planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) i (f) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
5
Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
Gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth21
1
Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunydd ardystiedig os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
2
Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
a
yn cael ei dyfu o blanhigyn tarddiol ardystiedig a dyfwyd o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
b
yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
c
yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
d
yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
e
yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
3
At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
4
Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol ardystiedig neu’n ddeunyddiau ardystiedig nad yw’n bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
a
rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
b
caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
5
Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
Gofynion iechyd: planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig22
1
Rhaid i blanhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
2
Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
3
Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn ystod rhewgadw.
4
Mae arolygydd a, phan fo’n briodol, cyflenwr, yn cadarnhau cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
5
Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
Gofynion pridd: planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig23
1
Rhaid tyfu planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
2
Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
3
Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
a
cyn plannu’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y cyfryw blâu;
b
gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol, bioleg y plâu, a pherthnasedd y plâu i’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig o dan sylw;
c
yn unol â’r protocol priodol.
4
Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
a
yn achos planhigion ffrwythau ardystiedig;
b
pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
c
pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.