- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
“mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(2);
mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(3);.”.
(3) Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—
“(a)swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu
(b)plentyn yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei gyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.”.
(4) Yn rheoliad 6 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—
(a)ailrifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder y paragraff a ganlyn—
“(2) Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn pan fo’r plentyn yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn Atodlen 5.”.
(5) Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—
(a)ym mharagraff (1), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—
“(cha)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a”;
(b)ym mharagraff (3), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—
“(cha)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a”.
(6) Ar ôl Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), mewnosoder fel Atodlen 5(4) yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
“mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(6);
mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â pherson sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(7);.”.
(3) Yn rheoliad 4 (adolygu cynlluniau)—
(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol—
“(1A) Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth os yw’r person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.”.
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—
“(3) Mae’r ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth person pan fo’r person yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn yr Atodlen.”.
(4) Ar ddiwedd y Rheoliadau mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
4.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(9);”; a
yn lle’r diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd” rhodder y canlynol—
“ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(10);”.
(3) Yn rheoliad 41 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt)—
(a)ym mharagraff (1) yn lle “mharagraff 1” rhodder “mharagraffau 1 i 17”,
(b)ym mharagraff (2) yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraffau 18 i 26”,
(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn—
“(3) Ym mharagraff (2) ac yn Atodlen 8—
mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth(11).”.
(4) Yn rheoliad 57 (addasiadau i Ran 2), ym mharagraff (4)(b) yn lle “rheoliad (5)” rhodder “rheoliad 7(5)”.
(5) Yn Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C), ar ôl paragraff 17 mewnosoder y canlynol—
“18. Manylion am unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer P.
19. Manylion am unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir ar gyfer P gan unrhyw berson.
20. Unrhyw newidiadau yng ngallu P i ofalu am blant, ac yn enwedig mewn perthynas ag C, o ganlyniad i’r gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
21. Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
22. Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
23. Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
24. A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion C ac anghenion P, neu anghenion unrhyw aelod arall o aelwyd P, a sut y gellir datrys hyn.
25. Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.
26. Ym mharagraffau 18 i 25—
Mae “P” i gael ei ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at “rhiant” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth.”.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
26 Mehefin 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: