Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

2.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—

mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(2);

mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(3);..

(3Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(a)swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu

(b)plentyn yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei gyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw..

(4Yn rheoliad 6 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—

(a)ailrifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);

(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(2) Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn pan fo’r plentyn yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn Atodlen 5..

(5Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—

(a)ym mharagraff (1), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

(cha)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a;

(b)ym mharagraff (3), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

(cha)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a.

(6Ar ôl Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), mewnosoder fel Atodlen 5(4) yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 2007/307 (Cy. 26) (“Rheoliadau 2007”). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2010/1700 (Cy. 161), rheoliad 9(3) ac O.S. 2016/216 (Cy. 85), rheoliad 7(6). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

O.S. 2015/1989 (Cy. 299). Diwygiwyd y Rheoliadau hyn gan O.S. 2017/491 (Cy. 103).

(3)

Gweler rheoliad 16 o’r Rheoliadau Partneriaeth (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd). Mae adrannau 166 i 169 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng pob bwrdd iechyd lleol a’r awdurdodau lleol o fewn ardal pob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru i sefydlu corff partneriaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodedig mewn partneriaeth.

(4)

Hepgorwyd Atodlen 4 i Reoliadau 2007 gan O.S. 2016/216 (Cy. 85), rheoliad 7(1) a (13).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources