Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 20072

1

Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 20071 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—

  • mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

  • ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 20152;

  • mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

  • mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

  • ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth3;.

3

Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

a

swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu

b

plentyn yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei gyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.

4

Yn rheoliad 6 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—

a

ailrifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);

b

ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder y paragraff a ganlyn—

2

Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn pan fo’r plentyn yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn Atodlen 5.

5

Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—

a

ym mharagraff (1), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

cha

yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a

b

ym mharagraff (3), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

cha

yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a

6

Ar ôl Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), mewnosoder fel Atodlen 54 yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.