Y Rhaglith
Y deddfiad sy’n rhoi pŵer | |
---|---|
(1) 1989 p. 41 (“Deddf 1989”). Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o “prescribed”. | |
(2) Mynegir bod y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 59 o Ddeddf 1989 i gael ei arfer gan yr “appropriate national authority”, a’i ystyr, fel y’i diffinnir yn adran 59(7) o Ddeddf 1989 (sydd wedi ei mewnosod gan adran 39 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23) (“Deddf 2008”) ac Atodlen 3, paragraff 23(6) iddi), o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru. Diwygiwyd yr adran hon hefyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14(1) ac (8), a chan Ddeddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(4). Mae diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. | |
(3) Diwygiwyd adran 104 o Ddeddf 1989 gan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 (p. 20), Atodlen 2, paragraff 10(a) a chan Ddeddf 2008, Atodlen 3, paragraff 25. Gwnaed diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. | |
(4) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(1) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y ddarpariaeth hon wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Diwygiwyd Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn ôl eu trefn gan adrannau 116 a 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a pharagraff 14(1) a (25) o Atodlen 4 ac Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r ddarpariaeth hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. | |
(5) Gweler adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”) i gael y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”. | |
Deddf Plant 1989(1) | Adrannau 59(4)(2), 104(4)(3) ac Atodlen 6(4), paragraff 10(1) |
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(5) | Adrannau 54(5) a (6), 83(5) a 196(2) |
Rheoliad 2
Rheoliad 6
1. Manylion o unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer rhiant.
2. Manylion o unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir i riant gan unrhyw berson.
3. Unrhyw newidiadau yng ngallu rhiant i rianta o ganlyniad i’r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
4. Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
5. Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
6. Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
7. A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion rhiant, neu anghenion unrhyw aelod arall o’r teulu, a sut y gellir datrys hyn.
8. Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben. ”.
Rheoliad 3
Rheoliad 4
1. Manylion unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer rhiant.
2. Manylion unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir i riant gan unrhyw berson.
3. Unrhyw newidiadau yng ngallu rhiant i rianta o ganlyniad i’r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
4. Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
5. Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
6. Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
7. A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion rhiant, neu anghenion unrhyw aelod arall o’r teulu, a sut y gellir datrys hyn.
8. Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.”.