Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Gorffennaf 2017
Yn dod i rym
1 Awst 2017
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Awst 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 7 oed;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”), mewn perthynas ag ysgol, yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw ceisydd am gymorth fel y’i disgrifir yn Erthygl 5 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn sydd wedi cael ei gymeradwyo yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn;
ystyr “cost cyflenwi” (“cost of supply”) mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymhwysol yw cost prynu cynhyrchion ac ychwanegu swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol ei fod yn ddigonol at ddibenion talu’r gost o gaffael a gweinyddu’r cyflenwad o’r cynhyrchion llaeth hynny;
ystyr “y costau gweddilliol” (“the residual costs”) yw’r costau cyflenwi, yr eir iddynt gan brynwr mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymhwysol i sefydliad addysgol cymhwysol, llai unrhyw gymorth Undeb a chymorth gwladol y caniateir eu rhoi mewn cysylltiad â’r cyflenwi hwnnw;
ystyr “cymorth gwladol” (“national aid”) yw cymorth a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn yn unol ag Erthyglau 23a(6) a 217 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “cymorth Undeb” (“Union aid”) yw cymorth Undeb a roddir yn unol ag Erthygl 23(1) o Reoliad y Cyngor ac yn unol â Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn;
ystyr “cynhyrchion llaeth cymhwysol” (“qualifying milk products”) yw’r llaeth a’r cynhyrchion llaeth a restrir yn Erthygl 23(3)(b) a (4)(b) o Reoliad y Cyngor ac Atodiad V iddo;
ystyr “disgyblion cymwys” (“eligible pupils”) yw disgyblion sy’n cael addysg mewn sefydliad addysgol cymhwysol ac sydd yn y flwyddyn derbyn, blwyddyn 1 neu flwyddyn 2;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn neu’r Rheoliadau Ewropeaidd;
ystyr “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn” (“Commission Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/40 dyddiedig 3 Tachwedd 2016 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymorth Undeb ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau, bananas a llaeth mewn sefydliadau addysgol ac sy’n diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/2014, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd(4);
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn” (“Commission Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39 dyddiedig 3 Tachwedd 2016 ynghylch rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymorth Undeb ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau, bananas a llaeth mewn sefydliadau addysgol, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd(5);
ystyr “Rheoliad Gweithredu Llorweddol” (“Horizontal Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system gweinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd(6);
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007(7) fel y’u diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/791 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Mai 2016 sy’n diwygio Rheoliadau (EU) Rhif 1308/2013 (Rheoliad y Cyngor) ac (EU) Rhif 1306/2013 o ran y cynllun cymorth ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau, bananas a llaeth mewn sefydliadau addysgol(8), ac fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;
ystyr “Rheoliadau Ewropeaidd” (“European Regulations”) yw—
Rheoliad y Cyngor,
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn,
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn;
ystyr “sefydliad addysgol cymhwysol” (“qualifying educational establishment”) yw sefydliad addysgol y cyfeirir ato yn Erthygl 22 o Reoliad y Cyngor.
(2) Ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau yr ystyr a roddir iddynt yn y Rheoliadau Ewropeaidd.
3.—(1) Pan fo ceisydd yn cael cymorth Undeb, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth gwladol i’r ceisydd hwnnw yn ychwanegol at y cymorth Undeb hwnnw.
(2) At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru bennu’r math neu’r dosbarth o sefydliadau addysgol cymhwysol neu’r cynhyrchion llaeth cymhwysol y caniateir talu cymorth gwladol mewn perthynas â hwy, drwy gyfeirio at unrhyw set o amgylchiadau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn addas.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r darpariaethau penodedig a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â chymorth gwladol fel pe bai’n gymorth Undeb—
(a)yn Rheoliad y Cyngor; Erthygl 22 (Grŵp Targed), Erthygl 23 (Cymorth ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau ysgol a llaeth ysgol, mesurau addysgol ategol a’r gost gysylltiedig) ac Atodiad V (cynhyrchion llaeth cymwys);
(b)yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn; Erthygl 4 (Cais am gymorth a gyflwynir gan geisydd am gymorth), Erthygl 5 (Talu’r cymorth); Erthygl 9 (Gwiriadau gweinyddol), Erthygl 10 (Gwiriadau yn y fan a’r lle) ac Erthygl 11 (Adennill taliadau nad oeddent yn ddyledus), ac
(c)yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn; Erthygl 6 (Amodau ar gyfer cymeradwyo ceiswyr am gymorth) paragraffau (1) a (2) yn unig, Erthygl 7 (Atal dros dro a thynnu’n ôl gymeradwyaeth); ac Erthygl 11 (Dosbarthu cynhyrchion ar y cyd â phrydau ysgol rheolaidd) paragraff (b) o’r ail baragraff yn unig.
4. Pan fo cymorth gwladol wedi ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi cynnyrch llaeth cymhwysol sydd naill ai â chyflas neu hebddo, yn llaeth cyflawn neu’n llaeth hanner sgim, i ddisgyblion cymwys, caiff y swm a roddir felly fod yn swm digonol i dalu’r costau gweddilliol a fyddai fel arall yn cael eu talu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn cysylltiad â’r cyflenwi hwnnw.
5.—(1) Pan fo ceisydd wedi cael cymorth Undeb neu gymorth gwladol o dan reoliad 3 nad oedd y ceisydd yn gymwys i’w gael, neu pan fo’r ceisydd wedi torri unrhyw ymrwymiad a roddwyd gan y ceisydd fel amod o gymorth Undeb neu gymorth gwladol o’r fath o dan y rheoliad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cadw’r cyfan neu unrhyw ran o gymorth Undeb neu gymorth gwladol o’r fath yn ôl o dan reoliad 3 y gallent fod wedi ei roi fel arall; neu
(b)adennill ar gais y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth Undeb neu gymorth gwladol o’r fath o dan reoliad 3 y maent eisoes wedi ei roi.
(2) Cyn cymryd camau o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi rhesymau ysgrifenedig i’r ceisydd dros y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd;
(b)rhoi cyfle i’r ceisydd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw gyfnod amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau o’r fath.
(3) Mae unrhyw arian sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn adenilladwy fel dyled.
6. Caniateir codi llog mewn cysylltiad â phob diwrnod o’r cyfnod y cyfeirir ato yn Erthygl 7(2) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol ac, at y diben hwn, y gyfradd llog sy’n gymwys ar unrhyw ddiwrnod yw un pwynt canran uwchlaw cyfradd sterling drimisol Llundain a gynigir rhwng banciau (LIBOR) ar y diwrnod gwaith cyntaf ym mhob mis calendr.
7.—(1) Caiff person awdurdodedig arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 8 at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn neu’r Rheoliadau Ewropeaidd.
(2) Caiff person awdurdodedig, drwy gyflwyno, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos awdurdod y person hwnnw, ar unrhyw adeg resymol fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre ac eithrio mangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat.
(3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i berson awdurdodedig fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd ar y tir neu i mewn i’r fangre at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1); a
(b)bod un o’r amodau ym mharagraff (5) wedi ei fodloni.
(5) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r tir neu’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, ac—
(i)bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu
(ii)na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd y byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;
(b)bod angen mynediad ar frys; neu
(c)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(6) Mae gwarant yn ddilys am dri mis.
(7) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â’r canlynol gydag ef—
(a)unrhyw gynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd; a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(8) Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu adael y fangre honno wedi ei diogelu yr un mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.
8.—(1) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre drwy arfer pŵer a roddir gan reoliad 7—
(a)cyflawni unrhyw ymholiadau, gwiriadau, archwiliadau, mesuriadau a phrofion;
(b)cymryd samplau;
(c)arolygu’r fangre gyfan neu unrhyw ran ohoni;
(d)gweld, arolygu, copïo ac argraffu unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba bynnag ffurf y’u cedwir) neu fynd ag unrhyw ddogfennau o’r fath oddi yno i’w gwneud yn bosibl eu copïo neu eu cadw fel tystiolaeth;
(e)gweld, arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion;
(f)tynnu ffotograff o unrhyw beth yn y fangre neu ei recordio ar ffurf ddigidol;
(g)mynd ag unrhyw beth oddi yno y credir yn rhesymol ei fod yn dystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio.
(2) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre o dan bŵer o dan ddeddfwriaeth arall arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn y rheoliad hwn at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7)(b) pan fo’r person hwnnw yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.
9.—(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004(9) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn y tabl yn yr Atodlen (Cynlluniau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu gweithdrefn apelau ar eu cyfer), yn lle “(EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 14) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1787/2003” rhodder—
“Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (Erthygl 23) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/791”.
10. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(10);
(b)Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2009(11).
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) (fel y’u diwygiwyd) yn sgil newidiadau yng nghyfraith yr UE. Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau 2008 a’r darpariaethau eraill sydd wedi diwygio Rheoliadau 2008.
Mae Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol yn cael ei ddiwygio gan Reoliad (EU) 2016/791 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Mai 2016 sy’n diwygio Rheoliadau (EU) Rhif 1308/2013 ac (EU) Rhif 1306/2013 o ran y cynllun cymorth ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau a llaeth mewn sefydliadau addysgol.
Offerynnau newydd yr UE sy’n berthnasol drwy ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 yn y cyd-destun hwn yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39 dyddiedig 3 Tachwedd 2016 a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/40 dyddiedig 3 Tachwedd 2016.
Mae’r gyfraith UE newydd yn delio â’r un pwnc â’r gyfraith UE y mae’n ei dirymu ac yn ei disodli, hynny yw, y rheolau sy’n llywodraethu’r ddarpariaeth o gymorth Undeb ar gyfer llaeth a chynhyrchion eraill mewn sefydliadau addysgol.
Caniateir taliadau cymorth gwladol gan Erthygl 23a(6) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 (fel y’i diwygiwyd). Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn darparu y gall Gweinidogion Cymru dalu’r cymorth gwladol hwn i geiswyr sy’n cael cymorth Undeb ac yn cadarnhau y caiff Gweinidogion Cymru bennu’r math neu’r dosbarth o sefydliad addysgol neu gynhyrchion llaeth y caniateir talu cymorth gwladol mewn perthynas â hwy. Mae hefyd yn darparu bod unrhyw daliad cymorth gwladol yn ddarostyngedig i’r un rheolau, gofynion ac amodau ag sy’n gymwys i gymorth Undeb.
Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion sy’n cael addysg mewn sefydliad addysgol cymhwysol ac sydd yn y flwyddyn derbyn, blwyddyn 1 neu flwyddyn 2, y caiff cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy’n ddigonol at ddibenion talu unrhyw gost a fyddai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu gan eu rhieni neu eu gwarcheidwaid o dan amgylchiadau pan na fo cymorth Cymunedol yn talu’n llawn am gost cyflenwi’r cynnyrch hwnnw.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cadw’n ôl neu adennill unrhyw gymorth Undeb neu unrhyw daliad gwladol, a wneir o dan reoliad 3 o’r Rheoliadau, nad yw ceisydd yn gymwys i’w gael neu pan fo’r ceisydd wedi torri unrhyw ymrwymiadau a roddwyd fel amod o’r cymorth Undeb hwnnw neu’r cymorth gwladol hwnnw (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer codi llog.
Mae’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau ymgymryd â gwiriadau gweinyddol a gwiriadau yn y fan a’r lle o fangre’r ceisydd o dan Erthyglau 9 a 10 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39. Mae rheoliadau 7 (pwerau mynediad) ac 8 (pwerau arolygu) yn helpu Gweinidogion Cymru (drwy bersonau awdurdodedig) i gydymffurfio â rhwymedigaethau’r UE i ymgymryd â gwiriadau yn y fan a’r lle effeithiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd ac atal gwallau a thwyll.
Mae rheoliad 9 yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004 o ganlyniad i’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i gyfraith yr UE. O dan y Rheoliadau hynny gall Gweinidogion Cymru barhau i sefydlu gweithdrefn ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i benderfyniad cychwynnol a wneir o dan y Cynllun Llaeth Ysgol.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.
OJ L 31, 1.2.2002, t. 1, ac nid oes diwygiadau perthnasol i Erthygl 9.
OJ L 5, 10.1.2017, t. 11.
OJ L 5, 10.1.2017, t. 1.
OJ L 227, 31.7.2014, t. 69.
OJ L 347, 20.12.2013, t. 671.
OJ L 135, 24.5.2016, t. 1.