(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo codau ymarfer at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn (gan gynnwys dirgryniad) a rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer o’r fath ar gyfer cyflawni mathau o waith y mae adran 60 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a gwaith ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o waith adeiladu peirianyddol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo’r ddwy ran o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored. Diffinnir safleoedd agored yn y cod fel safleoedd lle y mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn yr awyr agored sy’n ymwneud â chloddio, lefelu neu ddodi deunydd.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu Gorchymyn Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1795 (Cy. 170)) a Gorchymyn Rheoli Sŵn (Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy) 1981 (O.S. 1981/1829).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Gellir cael y codau ymarfer sydd wedi eu cymeradwyo yn bersonol neu drwy’r post oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) yn: Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.
Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi eu cymeradwyo:
BS 5228-1:2009 | ISBN 978 0 580 77749 3 |
BS 5228-2:2009 | ISBN 978 0 580 77750 9 |