Rheoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 827 (Cy. 199)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017

Gwnaed

7 Awst 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Awst 2017

Yn dod i rym

11 Medi 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26B(3), 26C a 26D o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1: CYFLWYNIAD

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017 a deuant i rym ar 11 Medi 2017.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;

ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru a sefydlir yn unol ag adran 26B(1) o’r Ddeddf; ac

ystyr “sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol” (“flood and coastal erosion risk management organisation”) yw sefydliad sy’n ymwneud, i unrhyw raddau, â’r sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

RHAN 2: CYFANSODDIAD

Aelodaeth

3.  Bydd y Pwyllgor yn cynnwys—

(a)cadeirydd (“y Cadeirydd”) (gweler rheoliad 4); a

(b)hyd at 14 o aelodau eraill (“aelodau’r Pwyllgor”) (gweler rheoliad 5).

Y Cadeirydd

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benodi’r Cadeirydd, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus(2), am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.

(2Rhaid nodi telerau penodi’r Cadeirydd yn yr offeryn penodi.

(3Caiff y Cadeirydd ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad y Cadeirydd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—

(a)nad yw’r Cadeirydd wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu

(b)bod y Cadeirydd fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn Gadeirydd.

Aelodau’r Pwyllgor

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benodi hyd at 14 o aelodau Pwyllgor am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.

(2Rhaid i bob aelod o’r Pwyllgor fod naill ai—

(a)yn arbenigwr ar faterion y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn berthnasol; neu

(b)yn gynrychiolydd enwebedig sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

(3Rhaid i unrhyw benodiad yn unol â pharagraff (2)(a) gydymffurfio â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus(3).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y Pwyllgor yn cynnwys aelodau o’r ddau gategori a bennir ym mharagraff (2).

(5Rhaid nodi telerau penodi aelod o’r Pwyllgor yn yr offeryn penodi.

(6Caiff aelod o’r Pwyllgor ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(7Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad aelod o’r Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—

(a)nad yw’r aelod o’r Pwyllgor wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu

(b)bod yr aelod o’r Pwyllgor fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn aelod o’r Pwyllgor.

Taliadau cydnabyddiaeth

6.  Caiff Gweinidogion Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau i’r Cadeirydd a thalu lwfansau i aelodau’r Pwyllgor.

Talu lwfansau i aelodau is-bwyllgor

7.  Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw lwfansau a bennir gan y Cadeirydd ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson a benodir i is-bwyllgor (gweler rheoliad 14).

RHAN 3: SWYDDOGAETHAU

Cwmpas

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, caiff y Pwyllgor gynghori ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Dyletswyddau

9.—(1Rhaid i’r Pwyllgor gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch—

(a)rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;

(b)materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;

(c)y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a

(d)gwaith a gyflawnir gan sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

(2Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 9(1), rhaid i’r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion y mae’n credu eu bod yn arwain at waith partneriaeth effeithiol rhwng awdurdodau rheoli risg Cymru a sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Pwerau

10.  Caiff y Pwyllgor—

(a)sefydlu ei raglen ei hun o waith cynghori ar berygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru;

(b)cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;

(c)cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;

(d)cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; ac

(e)ymrwymo i gytundebau â chyrff eraill, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Cyfarfodydd

11.—(1Rhaid i’r Pwyllgor gynnal ei gyfarfod cyntaf o fewn 6 mis i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a rhaid cynnal cyfarfodydd dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis ar ôl hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caiff y Pwyllgor reoleiddio pa mor aml y bydd yn cynnal ei gyfarfodydd.

Adroddiadau

12.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y modd y bu iddo arfer a chyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Rhaid i’r adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)crynodeb o’r cyngor a roddwyd gan y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw; a

(b)manylion aelodaeth, is-bwyllgorau, cyfarfodydd a’r taliadau cydnabyddiaeth a’r lwfansau a ddarparwyd.

(3At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2018 ac sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2018; a

(b)pob cyfnod o 12 mis hyd at 5 Ebrill ar ôl hynny.

RHAN 4: TRAFODION

Gweithdrefn

13.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraff (2) o’r rheoliad hwn, caiff y Pwyllgor reoleiddio ei weithdrefn ei hun, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd a’i weithdrefn bleidleisio.

(2Mae gweithdrefn y Pwyllgor mewn perthynas â chworwm yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Is-bwyllgorau

14.—(1Caiff y Pwyllgor sefydlu is-bwyllgorau drwy bleidlais fwyafrifol, i gyfarfod yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor.

(2Mae cylch gorchwyl is-bwyllgor yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(3Caiff y Pwyllgor reoleiddio gweithdrefn unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd a’i weithdrefn bleidleisio.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Awst 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru, a sefydlir o dan adran 26B(1) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae’r Pwyllgor yn gorff annibynnol sy’n cynghori Gweinidogion Cymru ac awdurdodau rheoli risg Cymru ar faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae rheoliad 3 yn nodi aelodaeth y Pwyllgor. Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd ac aelodau. Mae rheoliad 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu taliadau cydnabyddiaeth i’r cadeirydd a’r aelodau.

Mae rheoliadau 8, 9 a 10 yn nodi cwmpas y Pwyllgor, ei ddyletswyddau a’i bwerau.

Mae rheoliad 14 yn galluogi’r Pwyllgor i sefydlu is-bwyllgorau (ac mae rheoliad 7 yn galluogi talu i aelodau is-bwyllgor lwfansau a bennir gan y cadeirydd gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru).

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor gynnal cyfarfodydd, ac mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 13 yn galluogi’r Pwyllgor i reoleiddio ei weithdrefn ei hun, ac mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth gyfatebol ar gyfer is-bwyllgorau.

(2)

Cyhoeddwyd y Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2016 gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, ac mae’n nodi’r fframwaith rheoleiddio gorfodol ar gyfer gwneud penodiadau cyhoeddus.

(3)

Gweler uchod.