RHAN 2: CYFANSODDIAD
Aelodaeth3
Bydd y Pwyllgor yn cynnwys—
a
cadeirydd (“y Cadeirydd”) (gweler rheoliad 4); a
b
hyd at 14 o aelodau eraill (“aelodau’r Pwyllgor”) (gweler rheoliad 5).
Y Cadeirydd4
1
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi’r Cadeirydd, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus2, am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.
2
Rhaid nodi telerau penodi’r Cadeirydd yn yr offeryn penodi.
3
Caiff y Cadeirydd ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
4
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad y Cadeirydd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—
a
nad yw’r Cadeirydd wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu
b
bod y Cadeirydd fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn Gadeirydd.
Aelodau’r Pwyllgor5
1
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi hyd at 14 o aelodau Pwyllgor am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.
2
Rhaid i bob aelod o’r Pwyllgor fod naill ai—
a
yn arbenigwr ar faterion y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn berthnasol; neu
b
yn gynrychiolydd enwebedig sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
3
Rhaid i unrhyw benodiad yn unol â pharagraff (2)(a) gydymffurfio â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus3.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y Pwyllgor yn cynnwys aelodau o’r ddau gategori a bennir ym mharagraff (2).
5
Rhaid nodi telerau penodi aelod o’r Pwyllgor yn yr offeryn penodi.
6
Caiff aelod o’r Pwyllgor ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
7
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad aelod o’r Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—
a
nad yw’r aelod o’r Pwyllgor wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu
b
bod yr aelod o’r Pwyllgor fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn aelod o’r Pwyllgor.
Taliadau cydnabyddiaeth6
Caiff Gweinidogion Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau i’r Cadeirydd a thalu lwfansau i aelodau’r Pwyllgor.
Talu lwfansau i aelodau is-bwyllgor7
Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw lwfansau a bennir gan y Cadeirydd ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson a benodir i is-bwyllgor (gweler rheoliad 14).