- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
7 Awst 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Awst 2017
Yn dod i rym
11 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26B(3), 26C a 26D o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017 a deuant i rym ar 11 Medi 2017.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru a sefydlir yn unol ag adran 26B(1) o’r Ddeddf; ac
ystyr “sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol” (“flood and coastal erosion risk management organisation”) yw sefydliad sy’n ymwneud, i unrhyw raddau, â’r sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
3. Bydd y Pwyllgor yn cynnwys—
(a)cadeirydd (“y Cadeirydd”) (gweler rheoliad 4); a
(b)hyd at 14 o aelodau eraill (“aelodau’r Pwyllgor”) (gweler rheoliad 5).
4.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi’r Cadeirydd, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus(2), am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.
(2) Rhaid nodi telerau penodi’r Cadeirydd yn yr offeryn penodi.
(3) Caiff y Cadeirydd ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad y Cadeirydd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—
(a)nad yw’r Cadeirydd wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu
(b)bod y Cadeirydd fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn Gadeirydd.
5.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi hyd at 14 o aelodau Pwyllgor am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.
(2) Rhaid i bob aelod o’r Pwyllgor fod naill ai—
(a)yn arbenigwr ar faterion y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn berthnasol; neu
(b)yn gynrychiolydd enwebedig sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
(3) Rhaid i unrhyw benodiad yn unol â pharagraff (2)(a) gydymffurfio â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus(3).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y Pwyllgor yn cynnwys aelodau o’r ddau gategori a bennir ym mharagraff (2).
(5) Rhaid nodi telerau penodi aelod o’r Pwyllgor yn yr offeryn penodi.
(6) Caiff aelod o’r Pwyllgor ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad aelod o’r Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—
(a)nad yw’r aelod o’r Pwyllgor wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu
(b)bod yr aelod o’r Pwyllgor fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn aelod o’r Pwyllgor.
6. Caiff Gweinidogion Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau i’r Cadeirydd a thalu lwfansau i aelodau’r Pwyllgor.
7. Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw lwfansau a bennir gan y Cadeirydd ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson a benodir i is-bwyllgor (gweler rheoliad 14).
8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9, caiff y Pwyllgor gynghori ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
9.—(1) Rhaid i’r Pwyllgor gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch—
(a)rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;
(b)materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;
(c)y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a
(d)gwaith a gyflawnir gan sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
(2) Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 9(1), rhaid i’r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion y mae’n credu eu bod yn arwain at waith partneriaeth effeithiol rhwng awdurdodau rheoli risg Cymru a sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
10. Caiff y Pwyllgor—
(a)sefydlu ei raglen ei hun o waith cynghori ar berygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru;
(b)cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;
(c)cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;
(d)cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; ac
(e)ymrwymo i gytundebau â chyrff eraill, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
11.—(1) Rhaid i’r Pwyllgor gynnal ei gyfarfod cyntaf o fewn 6 mis i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a rhaid cynnal cyfarfodydd dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis ar ôl hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caiff y Pwyllgor reoleiddio pa mor aml y bydd yn cynnal ei gyfarfodydd.
12.—(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y modd y bu iddo arfer a chyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid i’r adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)crynodeb o’r cyngor a roddwyd gan y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw; a
(b)manylion aelodaeth, is-bwyllgorau, cyfarfodydd a’r taliadau cydnabyddiaeth a’r lwfansau a ddarparwyd.
(3) At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw—
(a)y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2018 ac sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2018; a
(b)pob cyfnod o 12 mis hyd at 5 Ebrill ar ôl hynny.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraff (2) o’r rheoliad hwn, caiff y Pwyllgor reoleiddio ei weithdrefn ei hun, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd a’i weithdrefn bleidleisio.
(2) Mae gweithdrefn y Pwyllgor mewn perthynas â chworwm yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
14.—(1) Caiff y Pwyllgor sefydlu is-bwyllgorau drwy bleidlais fwyafrifol, i gyfarfod yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor.
(2) Mae cylch gorchwyl is-bwyllgor yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
(3) Caiff y Pwyllgor reoleiddio gweithdrefn unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd a’i weithdrefn bleidleisio.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru, a sefydlir o dan adran 26B(1) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae’r Pwyllgor yn gorff annibynnol sy’n cynghori Gweinidogion Cymru ac awdurdodau rheoli risg Cymru ar faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae rheoliad 3 yn nodi aelodaeth y Pwyllgor. Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd ac aelodau. Mae rheoliad 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu taliadau cydnabyddiaeth i’r cadeirydd a’r aelodau.
Mae rheoliadau 8, 9 a 10 yn nodi cwmpas y Pwyllgor, ei ddyletswyddau a’i bwerau.
Mae rheoliad 14 yn galluogi’r Pwyllgor i sefydlu is-bwyllgorau (ac mae rheoliad 7 yn galluogi talu i aelodau is-bwyllgor lwfansau a bennir gan y cadeirydd gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru).
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor gynnal cyfarfodydd, ac mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 13 yn galluogi’r Pwyllgor i reoleiddio ei weithdrefn ei hun, ac mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth gyfatebol ar gyfer is-bwyllgorau.
Cyhoeddwyd y Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2016 gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, ac mae’n nodi’r fframwaith rheoleiddio gorfodol ar gyfer gwneud penodiadau cyhoeddus.
Gweler uchod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: