(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 (O.S. 2012/2705 (Cy. 291)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau’n—
(a)darparu ar gyfer gorfodi’n barhaus Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 12, 15.1.2011, t 1) (“Rheoliad 10/2011”) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 113, 29.4.2017, t 18) drwy—
(i)disodli’r diffiniad o Reoliad 10/2011 yn y prif Reoliadau er mwyn i gyfeiriadau at Reoliad 10/2011 fod yn gyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd (rheoliad 3); a
(ii)diwygio cyfeiriadau at Reoliad 10/2011 yn y tabl yn yr Atodlen i’r prif Reoliadau i orfodi diwygiadau a wnaed i Reoliad 10/2011 (rheoliad 14(b));
(b)cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) (“Deddf 1990”), gydag addasiadau, i’r prif Reoliadau (rheoliadau 13 a 15). Cymhwysir adran 10 o Ddeddf 1990 (gydag addasiadau) i alluogi i hysbysiadau gwella gael eu cyflwyno i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a restrir yn rheoliad 27(1)(a) o’r prif Reoliadau fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hyn. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd. Gwneir diwygiadau canlyniadol—
(i)i ddarparu mai drwy gyflwyno hysbysiadau gwella, yn hytrach na thrwy erlyniadau, y mae achosion o beidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig i gael eu trin (rheoliadau 4, 5, 7(b), 9, 10, 12 a 14(c));
(ii)i ail-rifo’r Atodlen bresennol i’r prif Reoliadau (rheoliadau 6, 7(a), 14(a) a 15); ac
(c)gwneud mân ddiwygiadau sy’n egluro pwy yw’r awdurdodau cymwys (rheoliad 8) a’r awdurdodau gorfodi (rheoliad 11).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.