Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Hydref 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cymhwyster penodedig” (“specified qualification”) yw cymhwyster perthnasol ac, ar y dyddiad pan fo’r person wedi ei gofnodi ar gyfer y cymhwyster hwnnw—

(a)

roedd wedi ei gymeradwyo o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(1) at ddibenion adran 96 o’r Ddeddf honno;

(b)

mae wedi ei gymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf 2015;

(c)

mae wedi ei ddynodi o dan adran 29 o Ddeddf 2015; neu

(d)

mae’n deillio o gwrs addysg neu hyfforddiant sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 34(8) o Ddeddf 2015;

ystyr “darparwr dysgu” (“learning provider”) yw person sy’n darparu addysg neu hyfforddiant a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion person sy’n 16 oed ac yn hŷn y ceir cyllid amdani neu amdano gan Weinidogion Cymru;

ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015(2).

Amgylchiadau rhagnodedig

3.  Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.

4.  Mae rheoliadau 6 a 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff person ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.

5.  Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 yw bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.

6.  Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth yw—

(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a

(b)bod Gweinidogion Cymru neu’r coladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.

7.  Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson yw—

(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a

(b)o ran yr unigolyn y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef—

(i)ei fod, neu yr oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu

(ii)ei fod, neu oedd ei fod wedi, ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.

Gwybodaeth ragnodedig am fyfyrwyr

8.  Mae’r disgrifiad o wybodaeth am fyfyrwyr a bennir yn Atodlen 1 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009.

Personau rhagnodedig a chategorïau rhagnodedig o bersonau

9.—(1Mae’r personau yn Rhan 1 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(c) o Ddeddf 2009.

(2Mae’r categorïau o bersonau yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(d) o Ddeddf 2009.

Alun Davies

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru.

7 Medi 2017