2017 Rhif. 886 (Cy. 214)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 253A(2) a (3) ac adran 262(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 20091, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Hydref 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cymhwyster penodedig” (“specified qualification”) yw cymhwyster perthnasol ac, ar y dyddiad pan fo’r person wedi ei gofnodi ar gyfer y cymhwyster hwnnw—

    1. a

      roedd wedi ei gymeradwyo o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20002 at ddibenion adran 96 o’r Ddeddf honno;

    2. b

      mae wedi ei gymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf 2015;

    3. c

      mae wedi ei ddynodi o dan adran 29 o Ddeddf 2015; neu

    4. d

      mae’n deillio o gwrs addysg neu hyfforddiant sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 34(8) o Ddeddf 2015;

  • ystyr “darparwr dysgu” (“learning provider”) yw person sy’n darparu addysg neu hyfforddiant a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion person sy’n 16 oed ac yn hŷn y ceir cyllid amdani neu amdano gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;

  • ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 20153.

Amgylchiadau rhagnodedig

3

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.

4

Mae rheoliadau 6 a 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff person ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 yw bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth yw—

a

bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a

b

bod Gweinidogion Cymru neu’r coladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.

7

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson yw—

a

bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a

b

o ran yr unigolyn y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef—

i

ei fod, neu yr oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu

ii

ei fod, neu oedd ei fod wedi, ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.

Gwybodaeth ragnodedig am fyfyrwyr8

Mae’r disgrifiad o wybodaeth am fyfyrwyr a bennir yn Atodlen 1 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009.

Personau rhagnodedig a chategorïau rhagnodedig o bersonau9

1

Mae’r personau yn Rhan 1 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(c) o Ddeddf 2009.

2

Mae’r categorïau o bersonau yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(d) o Ddeddf 2009.

Alun DaviesGweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru.

ATODLEN 1Gwybodaeth ragnodedig am fyfyrwyr

Rheoliad 8

1

Ar gyfer pob unigolyn sy’n ceisio, wedi ceisio neu wedi cael cymhwyster penodedig, yr wybodaeth a ganlyn—

a

cyfenw;

b

enw cyntaf, neu bob enw cyntaf, os oes mwy nag un;

c

rhyw;

d

dyddiad geni;

e

grŵp ethnig;

f

cyfeiriad cartref a chod post;

g

rhif unigryw’r dysgwr a ddyrannwyd i unigolyn gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu4;

h

y cymwysterau perthnasol neu’r cymwysterau rheoleiddiedig, os oes rhai, sydd gan yr unigolyn wrth ymrestru neu gofrestru â’r darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig;

i

y dyddiad pan gofrestrodd, neu pan ymrestrodd, yr unigolyn â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.

2

Enw a chyfeiriad y darparwr dysgu y mae’r unigolyn, neu yr oedd yr unigolyn, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru ag ef.

3

Ar gyfer pob cymhwyster penodedig y mae unigolyn yn ei geisio, wedi ei geisio, neu wedi ei gael—

a

enw’r cymhwyster;

b

y cod adnabod unigryw a ddyrannwyd i’r cymhwyster gan Gymwysterau Cymru5;

c

y radd y mae darparwr dysgu neu goladydd gwybodaeth yn rhag-weld y bydd unigolyn yn ei chael cyn sefyll unrhyw arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster;

d

y radd, os oes un, a gafwyd;

e

enw a chyfeiriad y ganolfan arholi a rhif y ganolfan arholi, a ddyrannwyd gan y person sy’n dyfarnu’r cymhwyster, y safwyd unrhyw arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster ynddi;

f

y dyddiad pan gofnodwyd unigolyn ar gyfer arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster;

g

y dyddiad pan ddyfarnwyd y cymhwyster;

h

y rhif unigryw a ddyrannwyd i unigolyn sy’n ceisio’r cymhwyster gan y person sy’n dyfarnu’r cymhwyster.

ATODLEN 2Personau rhagnodedig a chategorïau rhagnodedig o bersonau

Rheoliad 9

RHAN 1Personau rhagnodedig

  • Y Cyd-Gyngor Cymwysterau6

  • Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru7

  • Career Choices Dewis Gyrfa Limited (rhif cofrestru’r cwmni 07442837)

  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru8

  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr9

  • Cymwysterau Cymru

  • Yr Ysgrifennydd Gwladol

  • Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau10

  • Universities and Colleges Admissions Service (rhif cofrestru’r cwmni 02839815)

  • Student Loans Company Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02401034)

  • Higher Education Statistics Agency Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02766993)

RHAN 2Categorïau rhagnodedig o bersonau

Darparwr dysgu

Personau sydd, at ddiben hybu addysg neu lesiant myfyrwyr yng Nghymru, yn—

a

cynnal gwaith ymchwil neu ddadansoddi;

b

ynhyrchu ystadegau;

c

darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau;

ac y mae angen gwybodaeth am fyfyrwyr arnynt at y diben hwnnw.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caiff person yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr iddynt. Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi’r math o wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir iddi gael ei rhannu a’r amgylchiadau pan ganiateir i’r wybodaeth honno gael ei rhannu.

Mae rheoliadau 3 i 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth am fyfyrwyr gael ei rhannu.

Mae rheoliad 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i’r llall, i berson rhagnodedig neu i gategori rhagnodedig o berson os yw’r wybodaeth honno yn ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.

Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff person ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth os yw’r wybodaeth honno yn ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig a bod Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.

Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff person (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth) ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson os yw dau amgylchiad wedi eu bodloni. Rhaid i’r wybodaeth ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig. Yn ogystal, mae’r person, neu roedd y person, y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu mae’n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant, neu wedi ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant, gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.

Mae cymhwyster penodedig yn gymhwyster perthnasol sy’n gymwys i gael cyllid gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 neu Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.

Mae rheoliad 8 ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir iddi gael ei darparu.

Mae rheoliad 9 ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caniateir i wybodaeth gael ei darparu iddynt.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.