xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caiff person yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr iddynt. Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi’r math o wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir iddi gael ei rhannu a’r amgylchiadau pan ganiateir i’r wybodaeth honno gael ei rhannu.

Mae rheoliadau 3 i 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth am fyfyrwyr gael ei rhannu.

Mae rheoliad 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i’r llall, i berson rhagnodedig neu i gategori rhagnodedig o berson os yw’r wybodaeth honno yn ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.

Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff person ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth os yw’r wybodaeth honno yn ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig a bod Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.

Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff person (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth) ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson os yw dau amgylchiad wedi eu bodloni. Rhaid i’r wybodaeth ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig. Yn ogystal, mae’r person, neu roedd y person, y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu mae’n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant, neu wedi ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant, gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.

Mae cymhwyster penodedig yn gymhwyster perthnasol sy’n gymwys i gael cyllid gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 neu Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.

Mae rheoliad 8 ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir iddi gael ei darparu.

Mae rheoliad 9 ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caniateir i wybodaeth gael ei darparu iddynt.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.