Rheoliad 9
Y Cyd-Gyngor Cymwysterau(1)
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(2)
Career Choices Dewis Gyrfa Limited (rhif cofrestru’r cwmni 07442837)
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(3)
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr(4)
Cymwysterau Cymru
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau(5)
Universities and Colleges Admissions Service (rhif cofrestru’r cwmni 02839815)
Student Loans Company Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02401034)
Higher Education Statistics Agency Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02766993)
Darparwr dysgu
Personau sydd, at ddiben hybu addysg neu lesiant myfyrwyr yng Nghymru, yn—
(a)cynnal gwaith ymchwil neu ddadansoddi;
(b)ynhyrchu ystadegau;
(c)darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau;
ac y mae angen gwybodaeth am fyfyrwyr arnynt at y diben hwnnw.
Mae’r Cyd-Gyngor Cymwysterau yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n gyfyngedig drwy warant.
Mae Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi ei benodi drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18).
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gorff corfforaethol a sefydlwyd o dan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13).
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr yn gorff corfforaethol a sefydlwyd o dan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 127 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22).