(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.
(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)—
(a)nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 158);
(b)nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 159);
(c)os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 159);
(ch)nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 160);
(d)nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn—
(i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,
(ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd,
(iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu
(iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol,
(ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 162);
(dd)nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.
(5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—
(a)ar eich gwefan, a
(b)ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|