Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

RHAN 4SAFONAU CADW COFNODION

19Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion
Safon 181:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)

ar eich gwefan, a

(b)

ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

20Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 182:Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny.