xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 912 (Cy. 223)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2017

Gwnaed

11 Medi 2017

Yn dod i rym

5 Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 5 o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 5 Hydref 2017.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(2).

Diwygio erthygl 1 o’r prif Orchymyn

2.  Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y lle priodol mewnosoder—

“Wales Infected Blood Support Scheme” means a scheme for financial support and advisory services provided to, or in respect of, persons infected with Hepatitis C, HIV or both as a result of receiving infected blood or blood products during the course of treatment provided by the health service in Wales.

Diwygio erthygl 3 o’r prif Orchymyn

3.  Mae erthygl 3(2) o’r prif Orchymyn wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn is-baragraff (d), yn yr ail le y mae’n ymddangos hepgorer “and”;

(b)yn is-baragraff (e), yn lle “.” rhodder “; and”; ac

(c)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)to manage and administer the Wales Infected Blood Support Scheme in accordance with directions issued by the Welsh Ministers.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

11 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 er mwyn diwygio swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.

Mae Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 wedi ei ddiwygio er mwyn rhoi i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre y swyddogaeth o reoli a gweinyddu Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig (yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru) i ddarparu cymorth ariannol a gwasanaethau cynghori i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi eu heintio â hepatitis C a/neu HIV o ganlyniad i gael gwaed neu gynhyrchion gwaed heintiedig yn ystod triniaeth gan y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.