2017 Rhif 913 (Cy. 224)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 22(1), (2), (4)(a) ac (c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Hydref 2017.

3

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “AaGIC” yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Sefydlu AaGIC2

Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Addysg a Gwella Iechyd Cymru neu Health Education and Improvement Wales wedi ei sefydlu.

Swyddogaethau AaGIC3

1

Mae AaGIC i arfer—

a

unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu sy’n gysylltiedig â hynny; a

b

unrhyw swyddogaethau eraill;

a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru2.

2

Yn yr erthygl hon, ystyr “gwasanaethau iechyd” yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Cyfansoddiad AaGIC4

1

Mae gan AaGIC—

a

cadeirydd;

b

dim mwy na 6 aelod arall nad ydynt yn swyddogion AaGIC yn ychwanegol at y cadeirydd; ac

c

dim mwy na 5 aelod arall sy’n swyddogion AaGIC gan gynnwys y person sydd, am y tro, yn dal swydd y prif weithredwr.

2

Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion AaGIC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.

Cyfarfodydd cyhoeddus5

Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 19603 i fod yn gymwys i AaGIC.

Vaughan GethingYsgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i gyfansoddiad.

Mae erthygl 3 yn nodi prif swyddogaethau AaGIC sydd i gael eu pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Mae prif swyddogaethau AaGIC yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae erthygl 4 yn nodi cyfansoddiad AaGIC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd AaGIC.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo na rhwymedigaethau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.