Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2017 ac eithrio rheoliad 2 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu2

Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 20162 wedi eu dirymu.

Dehongli3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;

  • mae i “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yr ystyr a roddir gan erthygl 2 Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 20163;

  • ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu sy’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

  • ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy;

  • ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “ffi’r categori cofrestru” (“category of registration fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â phob categori cofrestru a nodir yn rheoliad 4(1).

Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy4

1

Y ffi gofrestru sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 ac ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny yw—

a

£46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol4;

b

£46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol5;

c

£46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes addysg bellach6;

d

£46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach7;

e

£46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr ieuenctid8;

f

£46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth ieuenctid9; ac

g

£46 y flwyddyn ar gyfer ymarferydd dysgu seiliedig ar waith10.

2

Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i gael ei dalu tuag at y ffi sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).

3

Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

4

Pan fo person yn gwneud cais i gael ei gofrestru neu ei fod wedi ei gofrestru mewn mwy nag un categori cofrestru—

a

dim ond un ffi categori cofrestru sy’n daladwy; a

b

ffi’r categori cofrestru sy’n daladwy yw’r uchaf o’r ffioedd hynny ar ôl ystyried unrhyw gymhorthdal a bennir yn unol â pharagraff (2).

Darpariaeth sydd i gael ei gwneud gan y Cyngor mewn perthynas â ffioedd5

Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—

a

i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—

i

ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a

ii

cadw cofnodion yn y Gofrestr; a

b

bod eithriadau ac esemptiadau pan na fo ffioedd yn cael eu codi.

Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais6

Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn yr Atodlen iddo am unrhyw berson a gyflogir neu sydd fel arall wedi ei gymryd ymlaen gan y cyflogwr hwnnw i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

Didynnu ffi7

1

Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

2

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.

3

Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i gael ei ddidynnu gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 4(2).

4

Ni chaniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—

a

bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu

b

ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

Talu ffioedd i’r Cyngor8

Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5, dalu’r ffi honno i’r Cyngor.

Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi9

Wrth dalu’r ffi rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn yr Atodlen am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.

Methu â chyflawni dyletswydd10

Os yw person yn methu â chyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.

Kirsty WilliamsYsgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru