Rheoliad 6

YR ATODLENYR WYBODAETH SYDD I GAEL EI CHYFLENWI I’R CYNGOR

1.  Enw llawn y person.

2.  Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.

3.  Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.

4.  Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.

5.  Enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn cael ei gyflogi neu lle y mae wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol.

6.  Mewn cysylltiad â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid, enw cyflogwr y person.

7.  Mewn cysylltiad ag ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith—

(a)enw cyflogwr y person; a

(b)pan na fo’r cyflogwr yn gorff dysgu seiliedig ar waith, enw’r corff dysgu seiliedig ar waith y mae’r cyflogwr yn darparu dysgu seiliedig ar waith ar ei ran.

8.  Rhif yswiriant gwladol y person.

9.  Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.

10.  Dyddiad geni’r person.

11.  Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).

12.  Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy asiantaeth, enw’r asiantaeth honno.