Darpariaethau trosiannol

4.—(1Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 20(1) ac 21(1) o Ddeddf 2006 at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.

(2Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 20 ac 21 o Ddeddf 2006 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.