xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 933 (Cy. 227) (C. 80)

Tiroedd Comin, Cymru

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) a Chychwyn Rhif 4 (Cymru) (Diwygio)) 2017

Gwnaed

18 Medi 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1):

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) a Chychwyn Rhif 4 (Cymru) (Diwygio)) 2017.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965(2); ac

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau sy’n dod i rym

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym ar 20 Medi 2017—

(a)adran 20(1) (edrych ar wybodaeth); a

(b)adran 21(1) (copïau swyddogol).

Darpariaethau sy’n dod i rym at bob diben sy’n weddill

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym at bob diben sy’n weddill ar 20 Medi 2017—

(a)adran 20(2) a (3) (edrych ar wybodaeth); a

(b)adran 21(2) a (3) (copïau swyddogol).

Darpariaethau trosiannol

4.—(1Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 20(1) ac 21(1) o Ddeddf 2006 at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.

(2Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 20 ac 21 o Ddeddf 2006 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.

Diwygio Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017

5.—(1Gydag effaith o 20 Medi 2017, mae Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl erthygl 3 ychwaneger—

Estyn cymhwysiad adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006 ac Atodlen 2 iddi

4.(1) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

18 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae erthygl 2 yn dwyn adrannau 20(1) ac 21(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) i rym o ran Cymru. Mae erthygl 3 yn dwyn gweddill adrannau 20 ac 21 o Ddeddf 2006 i rym yn llawn o ran Cymru. Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer edrych ar gofrestrau o dir comin a meysydd tref a phentref a ddelir gan awdurdodau cofrestru tiroedd comin yng Nghymru, a dogfennau eraill, ac ar gyfer gwneud copïau swyddogol. Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

Mae’r Gorchymyn hefyd yn diwygio Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/564 (Cy. 133) (C. 51)) er mwyn estyn cymhwysiad adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi. Mae adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, yn ymwneud â chywiro cofrestrau ac â pheidio â chofrestru neu gam-gofrestru o dan Ddeddf 1965. Yn rhinwedd y diwygiad hwn, mae cychwyn adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, wedi ei estyn i unrhyw ardal yng Nghymru pan fo, hyd nes yr amser y mae adran 1 o Ddeddf 2006 wedi ei chychwyn mewn cysylltiad â hi, Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 yn cael effaith o hyd ar gofrestriad. Mae’r estyniad hwn o gymhwysiad adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, yn cael effaith o 20 Medi 2017.

Gellir cael gwybodaeth bellach am y darpariaethau y daw’r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2006 y gellir eu gweld yn www.legislation.gov.uk.

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 3(5) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 46 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 56 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 6(4) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 7(4) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 8(1), (2) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 11(5), (6) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 12(a) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 13(1)(a) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 14 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 156 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 161 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 17(1) i (2) a (4) i (9)1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 17(3), (10) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 17(3), (10) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 19(1) i (5) a (7)5 Mai 20172017/564 (Cy. 133) (C. 51)
Adran 19(6) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 19(6) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym5 Mai 20172017/564 (Cy. 133) (C. 51)
Adran 20(2), (3) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 21(2), (3) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 22 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 22 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym5 Mai 20172017/564 (Cy. 133) (C. 51)
Adran 23 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 23 – at ddibenion penodol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 24 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 246 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 25 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 29(1), (6) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 31(6)(a) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 381 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 39(1) i (5) a (7)1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 39(6) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 39(6) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 40 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 40 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 411 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 42(1) i (3) a (5)1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 42(4) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 42(4) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 43 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 43 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 44 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 44 – at ddibenion penodol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 44 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 456 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 461 Ebrill 20122012/806 (Cy. 113) (C. 21)
Adran 476 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 481 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Adran 496 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 50(1), (4) i (6) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 516 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 52 – at ddibenion penodol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 53 – at ddibenion penodol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Adran 53 – at ddibenion penodol1 Rhagfyr 20102010/2356 (C. 114)
Adran 53 – at ddibenion penodol1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Atodlen 2, paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 2, paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 – i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym5 Mai 20172017/564 (Cy. 133) (C. 51)
Atodlen 2, paragraffau 1, 2(1) a (2)(a) i (c), 3(1) a (2)(a) i (d), 4(1) i (5), 5(1), 5(2), 6(1), 6(2), 7(1), 7(2), 8(1), 8(2) a 9(1) i (3)5 Mai 20172017/564 (Cy. 133) (C. 51)
Atodlen 3, paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5, 8(2) a (3) – at ddibenion penodol12 Awst 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 3, paragraff 96 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 4, paragraff 66 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 4, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)
Atodlen 5, paragraffau 4, 6(a), 7(1)(yn rhannol) a (5)6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 6, Rhan 1 yn rhannol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 6, Rhan 1 yn rhannol1 Rhagfyr 20102010/2356 (C. 114)
Atodlen 6, Rhan 2 yn rhannol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 6, Rhan 3 yn rhannol6 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 6, Rhan 56 Medi 20072007/2386 (Cy. 197) (C. 88)
Atodlen 6, Rhannau 2, 3 a 5, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym1 Ebrill 20122012/739 (Cy. 99) (C. 19)

Gwnaed y Gorchymyn Cychwyn a ganlyn o dan Ddeddf 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr a chan Weinidogion Cymru o ran Cymru—

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn a ganlyn o dan Ddeddf 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr—

(1)

2006 p. 26; diwygiwyd adran 61(1) gan baragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), ac mae’n diffinio “appropriate national authority” fel Gweinidogion Cymru o ran Cymru.